Llygredd yn y môr

Rhifyn 51 - Y Môr
Llygredd yn y môr

Mae gofalu am yr amgylchedd yn rhywbeth pwysig iawn i bob un ohonon ni. Darllenwch y ddau ddarn canlynol sy’n sôn am y ffordd y gall yr amgylchedd, a’r môr yn enwedig, gael ei effeithio gan ddyn. 

Trychineb ar Arfordir Sir Benfro

Noson y 15fed o Chwefror 1996 oedd un o’r tywyllaf yn hanes arfordirol Sir Benfro pan aeth y tancer olew, yr MV Sea Empress, i drafferthion wrth geg harbwr Aberdaugleddau, gan achosi i’w llwyth olew lifo i’r môr. Ar y pryd, dyma’r trydydd llif olew gwaethaf yn hanes Prydain, a chafodd y llygredd effaith trychinebus ar arfordir Sir Benfro am flynyddoedd lawer wedyn. Lladdwyd llawer o fywyd gwyllt, yn cynnwys adar, pysgod a phlanhigion. 

Roedd yr MV Sea Empress ar ei ffordd tua moryd y Cleddau a phurfa olew Texaco yn Aberdaugleddau â’i llwyth o olew pan ddigwyddodd y ddamwain. Ychydig wedi wyth o’r gloch y nos, a hithau’n hwylio yn erbyn y llanw, cafodd y tancer ei gwthio oddi ar ei llwybr i ganol sianel yr afon, lle trawodd yn erbyn creigiau, gan hollti ei hochr. Llifodd 73,000 tunnell o’i 130,000 tunnell o olew i'r môr gan achosi difrod difrifol mewn ardal oedd yn rhan o Barc Cenedlaethol Sir Benfro.

Cafodd 210 cilomedr o’r arfordir ei orchuddio ag olew crai yn dilyn trychineb yr MV Sea Empress, a chostiodd y gwaith glanhau tua £60 miliwn.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
llygredd sbwriel neu wenwyn yn yr amgylchedd pollution
tarddle lle mae rhywbeth yn dechrau source
heigiau grwpiau o bysgod shoals
dyfroedd y gair lluosog am ddŵr waters
gweigion y gair lluosog am wag empty
ynghudd rhywbeth sydd wedi ei guddio hidden
y genlli gair arall am y môr sea
gorfoleddu dathlu; bod yn hapus (to) rejoice
trychinebus rhywbeth ofnadwy iawn disastrous
moryd lle mae'r afon yn mynd i'r môr estuary