Dros y canrifoedd, mae pobl wedi bod yn dibynnu ar y môr am bysgod. Bob blwyddyn, mae pobl Sir Benfro’n dathlu hynny. Dewch i weld sut …
Cafwyd y llun hwn oddi ar wefan Wythnos Bysgod Sir Benfro
Wythnos Bysgod Sir Benfro yw un o wyliau bwyd mwyaf Prydain. Mae’n digwydd ar hyd a lled y sir ar ddiwedd Mehefin a dechrau Gorffennaf bob blwyddyn.
Beth sy’n digwydd?
Pysgota
Dangos pysgod
Gwerthu pysgod
Trin pysgod
Coginio pysgod
Bwyta pysgod ... barbiciw, tapas, pysgod a sglodion!
Dal pysgod ... rhwydi, gwialen, cychod, cwryglau!
Dysgu am bysgod a chreaduriaid y môr
Cerdded ar lan y môr
Cael sbort a sbri gyda chychod ...
a physgod!
Cafwyd y lluniau i gyd oddi ar wefan Wythnos Bysgod Sir Benfro
Mae gwyliau tebyg yn cael eu cynnal mewn rhannau eraill o Gymru hefyd:
- Gŵyl Bwyd Môr Bae Ceredigion yn Aberaeron ddiwedd mis Awst.
- Gŵyl Llymarch a Chynnyrch Bwyd Cymreig Sir Fôn ym mis Hydref.