Pan oedd sgiwyr, sglefrwyr a thoboganwyr gorau’r byd yn cystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn Pyeongchang ym mis Chwefror eleni, roedd cystadleuaeth wahanol iawn yn digwydd rai milltiroedd i ffwrdd yn Welli Hilli Park.
Dyma ble roedd wyth robot yn sgïo yn erbyn ei gilydd i lawr bryn serth yn y gobaith o ennill gwobr o $10 000 i’r timau oedd wedi eu creu.
Roedd rheolau pendant ynglŷn â pha fath o robotiaid oedd yn cael cystadlu:
Roedd rhai hyd yn oed yn gwisgo dillad sgïo dros eu cyrff, gan edrych yn ddeniadol iawn!
Cafwyd y llun oddi ar y fideo yma: https://www.youtube.com/watch?v=jreLOtVjm3k
Gan ddefnyddio synwyryddion camerâu i synhwyro polion fflagiau glas a choch, roedd rhaid i’r robotiaid sgïo i lawr cwrs 70 metr tebyg i gwrs Olympaidd arferol, gan osgoi taro i mewn i’r polion fflagiau. Yn anffodus, doedd pob synhwyrydd ddim yn ddigon sensitif - ac aeth ambell robot yn syth i mewn i’r rhwystrau!
Yr enillydd oedd y robot lwyddodd i sgïo i lawr y bryn gyflyma, gan daro i mewn i’r nifer lleiaf o rwystrau a’i enw oedd TaekwonV, gafodd ei greu gan gwmni Minirobot o Dde Corea. Llwyddodd i sgïo o gwmpas pum rhwystr gan orffen y ras mewn 18 eiliad.
Kim Dong-Uk drefnodd y ras ac roedd o’n obeithiol y byddai’r ras yma’n arwain at rasys tebyg yn y dyfodol. “Dw i’n meddwl y bydd Gemau Olympaidd y Gaeaf yn cael eu cynnal ar gyfer robotiaid yn y dyfodol,” meddai. “Bydd y rhain ar gyrion y Gemau Olympaidd arferol.”
Tybed wir?
Os hoffech chi weld y robotiaid yn sgïo i lawr y bryn, ewch i:
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
synwyryddion | lluosog synhwyrydd; dyfais sy'n canfod neu'n mesur presenoldeb rhywbeth ac sy'n ei gofnodi neu'n ymateb iddo | sensors |