Robotiaid ar ras

Rhifyn 52 - Rhyfedd!
Robotiaid ar ras
Robotiaid ar ras

Pan oedd sgiwyr, sglefrwyr a thoboganwyr gorau’r byd yn cystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn Pyeongchang ym mis Chwefror eleni, roedd cystadleuaeth wahanol iawn yn digwydd rai milltiroedd i ffwrdd yn Welli Hilli Park.

Dyma ble roedd wyth robot yn sgïo yn erbyn ei gilydd i lawr bryn serth yn y gobaith o ennill gwobr o $10 000 i’r timau oedd wedi eu creu.

Y robotiaid

Roedd rheolau pendant ynglŷn â pha fath o robotiaid oedd yn cael cystadlu:

  • Roedden nhw i fod i edrych fel pobl – roedd rhaid bod ganddyn nhw ddwy goes gyda chymalau oedd yn debyg i ben-elinau a phengliniau.
  • Roedd rhaid iddyn nhw fod o leiaf 50 cm o daldra.
  • Roedd rhaid bod ganddyn nhw system bweru annibynnol.
  • Roedd rhaid iddyn nhw ddefnyddio’r un math o sgis a pholion ag y mae pobl yn eu defnyddio fel arfer.

Roedd rhai hyd yn oed yn gwisgo dillad sgïo dros eu cyrff, gan edrych yn ddeniadol iawn!

Cafwyd y llun oddi ar y fideo yma: https://www.youtube.com/watch?v=jreLOtVjm3k

Y gystadleuaeth

Gan ddefnyddio synwyryddion camerâu i synhwyro polion fflagiau glas a choch, roedd rhaid i’r robotiaid sgïo i lawr cwrs 70 metr tebyg i gwrs Olympaidd arferol, gan osgoi taro i mewn i’r polion fflagiau. Yn anffodus, doedd pob synhwyrydd ddim yn ddigon sensitif - ac aeth ambell robot yn syth i mewn i’r rhwystrau!

Yr enillydd

Yr enillydd oedd y robot lwyddodd i sgïo i lawr y bryn gyflyma, gan daro i mewn i’r nifer lleiaf o rwystrau a’i enw oedd TaekwonV, gafodd ei greu gan gwmni Minirobot o Dde Corea. Llwyddodd i sgïo o gwmpas pum rhwystr gan orffen y ras mewn 18 eiliad.

Y dyfodol

Kim Dong-Uk drefnodd y ras ac roedd o’n obeithiol y byddai’r ras yma’n arwain at rasys tebyg yn y dyfodol. “Dw i’n meddwl y bydd Gemau Olympaidd y Gaeaf yn cael eu cynnal ar gyfer robotiaid yn y dyfodol,” meddai. “Bydd y rhain ar gyrion y Gemau Olympaidd arferol.”

Tybed wir?

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
synwyryddion lluosog synhwyrydd; dyfais sy'n canfod neu'n mesur presenoldeb rhywbeth ac sy'n ei gofnodi neu'n ymateb iddo sensors