Blas ar fyw

Rhifyn 53 - Y Galon
Blas ar fyw

Mae pawb yn gwybod am bwysigrwydd bwyta’n iach. Ond beth am fwyta calon i gadw’n iach?

 

Gan mai cyhyr yw’r galon, mae’n debyg iawn i stecen, cig rhost neu friwgig. Mae’n gallu bod yn sych os nad yw’n cael ei choginio’n ddigon araf.

Mae ryseitiau calon i’w cael ym mhob rhan o’r byd, o Indonesia i Japan, o Frasil i Fecsico, ac o Rwsia i Awstralia. Beth am drio darn bach o ’oret’ o Bali, sef selsig calon mochyn a gwaed, neu ‘mock goose’ o Awstralia, sef calon eidion wedi’i stwffio.

Ond, pam bwyta calon?

  • Mae’n uchel mewn maeth: protin, sinc, fitamin B, a ffosfforws
  • Mae’n rhad iawn o ran pris (am nad oes llawer yn ei fwyta, siŵr o fod!).

RHOWCH GYNNIG ARNI!

CEBABS CODI CALON

Ar gyfer 2 gebab:

1 calon eidion
1 llwy fwrdd o sudd lemwn
1 llwy fwrdd o olew olewydd
halen
pupur
menyn i ffrio

Dull

  1. Torrwch y darnau o saim a’r gwythiennau caled o dop y galon.
  2. Torrwch y galon yn ddarnau ciwb tua 2cm o drwch.
  3. Cymysgwch y sudd lemwn, olew olewydd, halen a’r pupur mewn powlen.
  4. Rhowch y cig yn y cymysgedd a’i adael i fwydo am tua 2 awr.
  5. Wedyn, llwythwch y cig, fesul darn, ar goesyn sgiwer.
  6. Ffriwch y cebabs mewn padell ffrio – rhyw funud bob ochr.
  7. Gweiniwch y cebabs gyda salad a bara ffres.

Mae'n bosib defnyddio calonnau ieir neu ŵyn ar gyfer y rysáit hon hefyd.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
briwgig cig wedi'i falu'n fân iawn mince
mwydo rhoi bwyd mewn hylif am gyfnod o amser er mwyn gwella'r blas marinate
padell ffrio sosban fflat ar gyfer coginio rhywbeth mewn saim neu fenyn frying pan
coesyn sgiwer darn tenau, hir o bren fel coes neu frigyn ar gyfer coginio skewer