Wrth i bobl sylweddoli fod chwaraeon yn gallu gwneud lles i’r iechyd, mae mwy a mwy o bwyslais yn cael ei roi ar chwaraeon fel diwylliant, neu ffordd o feddwl.

Yn 1995, cafodd mudiad ISCA ei sefydlu yn Copenhagen, Denmark, sef Cymdeithas Ryngwladol Chwaraeon a Diwylliant.  Erbyn heddiw, mae’n gweithio ar 4 cyfandir mewn dros 70 o wledydd ar draws y byd. Bwriad y mudiad yw gweithredu fel rhyw fath o ymbarél, gan dynnu at ei gilydd lawer o wahanol fudiadau a sefydliadau sydd ddim yn gysylltiedig â llywodraeth unrhyw wlad:

  • i hybu chwaraeon ym mhob gwlad ar hyd a lled y byd
  • i wneud yn siŵr fod cymaint o bobl â phosib yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon
  • i wneud yn siŵr fod pob ifanc yn cymryd mwy o ran mewn chwaraeon
  • i wneud yn siŵr fod pobl o bob cefndir ethnig a diwylliant yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon
  • i hybu chwaraeon fel ffordd o fagu cysylltiadau a chwalu ffiniau
  • i hybu chwaraeon fel ffordd o ddangos hunaniaeth.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn frwd iawn i weld chwaraeon yn datblygu fel diwylliant. Mae’n cynnig grantiau a chefnogaeth i unigolion a chymdeithasau i ddatblygu chwaraeon a hybu ffitrwydd ym mhob cwr o Gymru, o athletwyr ifanc talentog i rai sydd erioed wedi cymryd rhan mewn unrhyw fath o chwaraeon o’r blaen. Mae’r grantiau’n gallu helpu i brynu offer newydd ac i hyfforddi gwirfoddolwyr neu hyfforddwyr newydd er mwyn sefydlu tîm newydd yn y gymuned.

Llwyddiant

Yng Nghasnewydd dros y blynyddoedd diwethaf, mae prosiect chwaraeon wedi arwain at newid mewn ymddygiad ymhlith pobl ifanc. Mae rhaglen Dyfodol Positif yn defnyddio chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel ffordd o ddenu pobl ifanc sy’n wynebu’r risg o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddu. Drwy dargedu pobl ifanc rhwng 10 a 19 oed, mae’r rhaglen yn  cynnig:

  • opsiynau positif yn lle ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • chwaraeon lleol heb fawr ddim cost i’r rhai sydd eisiau cymryd rhan
  • cyfleoedd gwirfoddoli ac arwain
  • cymwysterau i bobl ifanc
  • cefnogaeth i bobl ifanc sy’n wynebu risg er mwyn pwysleisio lles iechyd chwaraeon i bawb yn hytrach na’u bod yn cael eu cyfyngu i’r rhai sy’n dalentog yn y maes.

Yn 2017, cymerodd 22,640 o bobl ran yn rhaglen Dyfodol Positif Casnewydd. Newidiodd y rhaglen fywydau llawer iawn o bobl ifanc yr ardal.

 

Stori Bersonol
Roedd gan un person ifanc a gymerodd ran yn y rhaglen lawer o broblemau. Roedd e wedi cael ei eithrio o’r ysgol gyfun ac wedi’i wahardd rhag chwarae rygbi am bedwar mis ar ôl taro un o’i hyfforddwyr. Ar ôl gweithio gyda mentor chwaraeon, mae e’n mynd i ysgol yn Henffordd erbyn hyn, ac yn chwarae rygbi gyda’i glwb unwaith eto. Mae’n anelu at ddilyn gyrfa ym maes hyfforddi chwaraeon.

 

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
mudiad grŵp neu gymdeithas association
sefydlu creu rhywbeth o'r newydd establish
gweithredu gwneud rhywbeth neu gymryd rhan act
hunaniaeth yr hyn sy'n gwneud person yn unigolyn identity
diwylliant syniadau, arferion neu'r ffordd mae grŵp o bobl yn ymddwyn culture
gwrthgymdeithasol ymddygiad sy'n debygol o gynhyrfu neu ddiflasu pobl eraill o fewn y gymdeithas antisocial
eithrio pan fydd rhywun yn cael ei rwystro rhag gwneud rhywbeth exclude