Mae chwaraeon yn gallu dod â phobl at ei gilydd a’u troi’n elynion ar yr un pryd. Gall dod wyneb yn wyneb ar faes y gad achosi problemau. Dyma adroddiad papur newydd sy’n sôn am un digwyddiad arbennig flynyddoedd yn ôl.

Owens yn seren byd

BWLETIN BERLIN

Roedd yna gyffro mawr yn y Stadiwm Olympaidd Berlin eto heddiw, wrth i sawl record gael ei thorri, gyda’r Americanwr, Jesse Owens, yn cipio pedair medal aur. Llwyddodd y gŵr o dras Affricanaidd i ennill ras y 100m, y 200m, y ras gyfnewid 100m a’r naid hir.

Llun: Bundesarchiv Bild 183-R96374, Berlin, Olympiade, Jesse Owens beim Weitsprung - Bundesarchiv, Bild 183-R96374 / CC-BY-SA 3.0 © Wikimedia Commons o dan drwydded Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Germany

15 AWST 1936

Er hynny, yr Almaen ddaeth i frig tabl y medalau ac mae llawer o’r diolch am hynny i arweinydd y wlad, Adolf Hitler. ‘Mae chwaraeon yn ffordd o ddangos cryfder a chael gwared ar y gwan,’ dywedodd ar ddechrau Gemau Olympaidd Berlin bythefnos yn ôl. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ef wedi bod yn frwd iawn i ddangos bod yr Almaenwyr yn well na phawb arall ym mhob camp, ond nid oedd mewnfudwyr fel Iddewon a sipsiwn yr Almaen yn cael cystadlu.

Er bod disgwyl iddo gyflwyno’r medalau i’r enillwyr, gan gynnwys Jesse Owens, ar ddiwedd sesiwn y nos, gadawodd y stadiwm yn annisgwyl. Ond, llwyddodd i ysgwyd llaw ag athletwyr yr Almaen cyn mynd.

Fideo: https://www.youtube.com/watch?v=9Zn0zErRckc

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
maes y gad cae brwydr, man lle mae dau dîm neu ddau berson yn wynebu ei gilydd battleground
tras cefndir teuluol, achau ethnicity
ras gyfnewid ras lle mae un rhedwr mewn tîm o bedwar yn pasio ffon i'r rhedwr nesaf relay race
brig top, pen uchaf top
mewnfudwyr pobl sydd wedi symud i wlad o wlad arall immigrants
annisgwyl rhywbeth sy'n digwydd yn sydyn, heb ei ddisgwyl unexpectedly