S iocled yw un o’r bwydydd mwyaf diddorol ar y blaned!
I rai pobl, rhywbeth i’w fwyta yn unig ydyw,
O nd mae siocled yn llawer mwy defnyddiol na hynny! Ydych chi wedi clywed am y
C ar arbennig sy’n cael ei bweru gan siocled, er enghraifft? Hefyd mae rhai pobl yn dipio cig moch mewn siocled fel bod yn siocled yn ei
L apio’n llwyr. Mmm! Mae rhai pobl yn dweud ei bod hi’n bosib creu
E gni neu Ynni drwy ddefnyddio siocled!
D im ond rhai o’r pethau amrywiol gallwch chi eu gwneud gyda siocled sydd wedi eu rhestru uchod. Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd.
Dyma i chi gar diddorol – car rasio Fformiwla 3 sydd wedi ei greu o lysiau. Mae’r corff wedi ei greu o datws, yr olwyn lywio o foron a sedd y gyrrwr o ffa soya ac, yn rhyfeddol, mae’r injan yn defnyddio olew llysiau a braster siocled!
Dyma’r car rasio eco cyntaf ond, yn anffodus, nid yw’n cael cystadlu mewn rasys ceir gan nad yw’r tanwydd yn cadw at y rheolau.
Mae’n gallu cyrraedd 145 m.y.a.
Mae llawer o ddadlau wedi bod ynglŷn â’r ffordd orau o greu egni neu ynni. Mae rhai o blaid ynni’r haul ac maen nhw’n defnyddio paneli haul i’w greu. Mae pobl eraill yn meddwl mai ynni gwynt yw’r gorau a’r glanaf ac mae pobl eraill yn canmol ynni niwclear. Yn sicr, mae manteision ac anfanteision i’r dulliau hyn o greu ynni.
Ond faint o bobl sydd wedi ystyried ynni siocled?
Wel, yn 2006, aeth gwyddonwyr ym Mhrifysgol Birmingham ati i greu ynni siocled drwy ddefnyddio’r gwastraff sy’n cael ei greu wrth gynhyrchu siocled. Drwy gyfuno bacteria e-coli â’r gwastraff hwn, llwyddon nhw i greu hydrogen, sy’n danwydd glân iawn.
Nid yw’r cynllun wedi cael ei ddatblygu ymhellach ar hyn o bryd – rhywbeth i’r dyfodol, efallai – ond mae’n siwr y byddai pawb yn fodlon helpu gyda’r prosiect drwy fwyta cymaint o siocled â phosib!
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
olwyn lywio | yr olwyn mae'r gyrrwr yn ei defnyddio i lywio'r car | steering wheel |
tanwydd | rhywbeth sy'n cael ei ddefnyddio i greu ynni neu wres | fuel |
o blaid | yn cytuno â | in favour of |
manteision | lluosog mantais; pwyntiau da | advantages |
anfanteision | lluosog anfantais; pwyntiau gwael | disadvantages |
ystyried | meddwl yn ddwys am | (to) consider |
cyfuno | cymysgu gyda'i gilydd | (to) combine |