Dyddiadur Agustin Ramirez

Rhifyn 10 - Dan y ddaear
Dyddiadur Agustin Ramirez

12 Hydref, 2010

Mae hi wedi bod yn ddau fis ers i mi weld dad ddiwethaf, ac yfory, gobeithio, fe gaf i ei weld eto. Ers 33 o ddyddiau mae tîmau wedi bod yn gweithio'n galed, yn drilio twll i'r ddaear mewn ymgais i achub dad a'r 32 dyn arall sydd yno. Maen nhw wedi drilio siafft hir sy'n 66cm mewn diametr ac mae hwnnw'n ymestyn 700m dan y ddaear at y dynion. Y bwriad yw gollwng cawell arbennig i lawr i siafft. Mae'r gawell ddigon mawr i ddal un dyn, felly bydd dad a gweddill y gweithwyr yn cael eu codi o'r ddaear fesul un. Dw i'n edrych ymlaen i'w weld ond dw i hefyd yn poeni sut fydd o'n edrych. Er eu bod nhw wedi bod yn derbyn bwyd, diod a meddyginiaeth mewn podiau bychain dw i'n siwr y bydd bod dan y ddaear am chwe deg naw o ddiwrnodau wedi dweud arnyn nhw.

Rydyn ni wedi bod yn gwersylla yng Ngwersyll Gobatih ers wythnos - daeth mam yma ei hun i ddechrau oherwydd bod rhaid i mi a fy mrawd fynd i'r ysgol. Roedden ni'n aros gyda nain bryd hynny. Er bod cwmwl uwch ein pennau yma, mae pawb yn ymdrechu i gadw hwyliau da ar ei gilydd. Rhaid i mi gael noson dda o gwsg heno, mae yfory yn ddiwrnod mawr a bydd angen pob egni arnaf i.

13 Hydref, 2010

Mae'r gwaith wedi dechrau ac mae sawl dyn wedi'i achub eisoes. Dydw i ddim yn siŵr sut i ddisgrifio'r teimlad sydd yn fy mol. Maen rhyw fath o gymysgedd o gyffro ac e3_2 (1).jpg ofn sy'n chwarae mig yn fy stumog i. Mae mam ar bigau'r drain - dw i ddim yn meddwl ei bod hi wedi cysgu llawer neithiwr. Mae tri ar ddeg o ddynion wedi dod allan erbyn hyn. Pob tro y bydd dyn yn dod i'r wyneb yn ddiogel mae'r dorf yn dathlu drwy weiddi'n siriol. Allwch chi ddim edrych i unrhyw gyfeiriad heb weld camera teledu neu ohebwyr yn adrodd ein hanes ni - mae llygaid y byd ar ein cornel fach ni o'r byd heddiw.

Ar ôl aros hir, dw i'n cael deall mai dad sydd nesaf. Ef fydd y trydydd dyn ar hugain i gael ei achub. Dw i methu coelio mod i am gael ei weld heddiw.  Pan gafon ni wybod bod y pwll wedi dymchwel ar eu pennau no ym mis Awst -meddyliais na fuaswn i fyth yn ei weld o eto.  Mi fydd o adref gyda ni dros y Nadolyg hefyd; ni fyddai'r un anrheg yn gallu curo hynny.

14 Hydref, 2010

Fe ddaeth dad allan o'r pwll am 2.14 prynhawn ddoe. Er ei fod yn gwisgo par o sbectol haul, doedd dim amheuaeth mai dad oedd o. Roedd ei ddillad yn faw a llwch e3_1 (2).jpgdrostynt a'i wallt yn llwyd yr olwg oherwydd hynny. Mi oedd wedi colli pwysau ond o ystyried ei fod wedi bod dan y ddaear am chwe deg naw o ddiwrnodau, mi oedd o'n edrych yn iawn. Dw i erioed wedi temilo mor falch o weld rhwyun. Ffrwydrodd y gymysgedd 'na o gyffro ac ofn a oedd wedi byw yn fy stumog am ddiwrnodau yn un llif o ryddhad. 'Roedd dagrau o lawenydd yn llifo lawr gruddiau mam. Teimlwn fel bod gen i rywbeth yn sownd yn fy ngheg - doeddwn i methu rhoi'r gorau i wenu. Roedd dad yn ôl gyda ni, yn ddiogel ac yr un fath ag oedd o cyn y drychineb.

Mae camerau yn ein dilyn ni o gwmpas ar hyn o bryd, gyda'r bwriad o adrodd hanes y goroeswyr. Cafodd pob un o'r mwynwyr eu hachub yn ddiogel. Mae'n eithaf rhyfedd - dydyn ni ddim yn enwog, ond mae pawb eisiau gwybod ein hanes ni fel teulu. Dywedodd mam y bydd sylw'r wasg yn tawelu cyn bo hir, ond am nawr dw i'n ddigon hapus cael dad adref. Rydyn ni gyd yn edrych ymlaen am y Nadolig a chael rhoi'r profiad yma tu ôl i ni.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
dweud ar effeithio rhywun affect
chwarae mig cuddio, nôl a mlaen hide-and-seek
pigau’r drain nerfus, yn poeni am rywbeth on edge
siriol yn llawen cheery, happy
gohebwyr pobl sy’n dweud y newyddion reporters
dim amheuaeth gwybod rhywbeth yn iawn no doubt
gruddiau wyneb, bochau face, cheeks
y wasg criwiau teledu, gohebwyr, papurau newydd ac ati press