Bocs 1

Bocs bach, sgwâr …

hardd,

wedi ei lapio

mewn papur arian sgleiniog

a rhuban melfed glas

mewn dwylo awchus.

 

Gwên lydan, hapus, wrth i'r plentyn,                          

ynghanol ei ffrindiau yn y parti,

dynnu'r rhuban a rhwygo'r papur,

gan geisio dyfalu

pa ryfeddod sydd yn

Y BOCS.

 

Bocs 2 

Bocs, mawr, petryal

plaen,

o gardfwrdd

brown,

heb unrhyw addurn                                       

o gwmpas corff blinedig.

 

Wyneb trist, gwag wrth i'r llanc

orwedd yn unig yn nrws siop fawr yn y dref,             

gan dynnu'r bocs yn dynn amdano.

Ei unig gysgod rhag y gwynt a'r glaw -           

Y BOCS.

c1_1 (2).jpg

Non ap Emlyn

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
dwylo awchus dwylo sy’n methu aros i gael gafael ar y peth yn y bocs eager hands
rhyfeddod rhywbeth arbennig iawn surpise, wonder, marvel
addurn rhywbeth sy’n addurno, e.e. rhuban, patrwm, siapiau, lliwiau ac ati decoration
llanc dyn ifanc young man
ei unig eiddo yr unig beth sydd ganddo his only possession