Cadwyn fu'n cariad ni
yn dyner,
ond heno'n goelcerth
yn clecian,
a minnau
yn ceisio'r ystrydebau
yn oerni'r fflam:
weithiau
dyheaf
am rwygo'r gadwyn
a rhodio'n rhydd:
ond yna,
fel y carcharor coll,
ofnaf oerni'r nos
y tu hwnt i'r mur.
Clymaf sicrwydd y gadwyn
yn gell o'm cwmpas
a phenderfynu
mai
rhy hawdd y rhyddid.
Iwan LlwydAllan o: Sonedau Bore Sadwrn, Y Lolfa, 1983.
Ffrangeg: Je t'aime
Almaeneg: Ich liebe dich
Sbaeneg:Te quiero / Te amo
Groeg: S'agapo
Eidaleg:Ti amo
Iaith Gwlad yr Iâ: Ég elska þig (dwedwch: jeg elsca thig)
Iseldireg: Ik hou van jou
Daneg: Jeg elsker dig
Perseg (Farsi):Tora dust midaram
Bengali: Ami tomay bhalobashi
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
coelcerth | tân mawr sy’n cael ei godi yn yr awyr agored | bonfire |
ceisio | yma - chwilio am | to look for |
ystrydebau | geiriau mae pobl yn eu defnyddio’n aml heb feddwl beth yw eu hystyr | clichés |
dyheu am | eisiau rhywbeth yn fawr iawn | to long for |
to long for | cerdded | to roam |
y tu hwnt i | yr ochr draw i | beyond |
sicrwydd | bod yn sicr | certainty |
cyferbynnu | dangos gwahaniaeth | to contrast |