Ceisio gwneud synnwyr

Rhifyn 14 - Cyfathrebu
Ceisio gwneud synnwyr

Sawl tro ydych chi wedi clywed athro neu athrawes yn cwyno, 'Rhaid i ti atalnodi! Fedra i  ddim gwneud pen na chynffon o dy waith di!' Ond pe baen ni'n defnyddio hieroglyphics fel yr hen Eifftiaid fyddai dim rhaid i ni boeni am atalnodi oherwydd doedden nhw ddim yn atalnodi o gwbl! Doedden nhw ddim yn defnyddio llafariaid chwaith! c2_234 (1).jpg

Beth ydy ystyr y gair 'hieroglyph?

Mae wedi cael ei wneud o ddau air Groeg:

  • hieros sy'n golygu 'sanctaidd'
  • glyphe sy'n golygu 'ysgrifen'

Felly ystyr hieroglyph ydy 'ysgrifen sanctaidd'.Roedd yn defnyddio lluniau i gynrychioli pethau, digwyddiadau, synau a syniadau. Roedd mwy na 700 sumbol. Roedd rhai lluniau yn cynrychioli geiriau cyfan.

Sut ydyn ni'n gwybod sut i ddarllen hieroglyphics ?

Yn 1799 cafodd carreg ei darganfod yn el-Rashid (Rosetta) yn yr Aifft.  Arni roedd ysgrifen mewn dwy iaith - Eiffteg a Groeg a thri math o sgript - hieroglyphig sef y sgript oedd yn cael ei ddefnyddio mewn dogfennau crefyddol pwysig, demotig sef sgript cyffredin yr Aifft a Groeg, yr iaith oedd yn cael ei defnyddio gan y rhai oedd yn rheoli'r Aifft ar y pryd.

Llun Rosetta Stone : Hans Hillewaert

Sut ydyn ni'n gwybod ym mha ffordd i ddarllen Hieroglyphics?

Mae'n rhaid edrych yn fanwl ar yr hieroglyphs i wybod ym mha ffordd i'w darllen. Mae'n dibynnu ar ba ffordd mae'r bobl neu'r anifeiliaid yn wynebu.Os ydy anifail yn wynebu i'r dde yna rydych yn darllen o'r dde i'r chwith. Os ydy e'n wynebu i'r chwith rydych yn darllen o'r chwith i'r dde - fel rydyn ni'n gwneud. I gymhlethu pethau, weithiau maen nhw'n darllen o'r top i'r gwaelod!

Ar beth oedd yr Hen Eifftiaid yn ysgrifennu?

Ar gorsen papyrus, planhigyn tal sy'n tyfu mewn afonydd neu dir gwlyb. Byddai coesau tal y planhigion - oedd yn wag yn y canol - yn cael eu hagor allan,eu sychu a'u glynu wrth ei gilydd i wneud tudalennau.

Byddai'r Eifftiaid hefyd yn cerfio hieroglyphs ar gerrig a'u paentio ar waliau beddrodau. 

Gyda beth oedd yr Hen Eifftiaid yn ysgrifennu?

Gyda phen- corsen denau a siarp - ac inc. Byddent yn malu planhigion a'u cymysgu gyda dŵr i wneud inc a phaent.

Ble'r oedden nhw'n defnyddio'r ysgrifen?

Mewn amryw o lefydd fel ysgolion, ar waliau beddrodau, mewn caeau, mewn temlau mewn rhyfel ac yn y llywodraeth.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
llafariaid a, e, i, o, u, w, y vowels
synau lluosog ‘sŵn’ noises
beddrodau lluosog 'beddrod', sef carreg fedd headstones