Cilmeri, 11 Rhagfyr 1282

Rhifyn 16 - Brenhinoedd a Breninesau
Cilmeri, 11 Rhagfyr 1282

Pam mae Cilmeri'n bwysig?

Mae Cilmeri'n bwysig oherwydd mai dyma lle cafodd Llywelyn ap Gruffydd ei ladd. Fe oedd yr unig dywysog Cymraeg i frenin Lloegr ei gydnabod fel Tywysog Cymru.

 

Beth oedd y sefyllfa cyn mis Rhagfyr 1282?

Roedd Llywelyn wedi bod yn ymladd erbyn ei dri brawd:Owain, RhodriaDafydd, i ennill tir yng Ngwynedd.

  • O 1255 i 1275, cadwodd Llywelyn ei frawd Owain yng Nghastell Dolbadarn.

 

  • 1258 -  Galwodd Llywelyn ei hun yn Dywysog Cymru am y tro cyntaf.

 

  • 1260au - Enillodd Llywelyn lawer o diroedd yn y Mers (sir Benfro, Gŵyr a dwyrain Cymru)

 

  • 1267 - Gwnaeth Llywelyn gytundeb â'r brenin Henri III o Loegr. Roedd Henri'n fodlon cydnabod Llywelyn fel Tywysog Cymru.

 

  • 1272 - Daeth Edward I yn Frenin Lloegr. Gwrthododd Llywelyn ei gydnabod. Aeth Rhodri a Dafydd, brodyr Llywelyn, i gefnogi Edward I.

 

  • 1274 - Ceisiodd Dafydd ladd Llywelyn. Methodd, a ffoi i Loegr.

 

  • 1276 - Aeth Edward I i ryfel yn erbyn Llywelyn. Cipiodd sir Fôn, oedd yn cynhyrchu llawer o wenith.

 

  • 1277 - Gwnaeth Llywelyn gytundeb ag Edward I. Collodd lawer o dir ond cadwodd y teitl 'Tywysog Cymru'.

 

  • 1282 - Dechreuodd Dafydd ryfel yn erbyn Edward I, ac ymunodd Llywelyn wedyn.

 

Beth ddigwyddodd ar ôl Cilmeri?

Cafoddpen Llywelynei dorri a'i anfon at Edward I yn Lloegr.  Rhoddodd Edward orchymyn fod y pen yn cael ei roi ar bolyn a'i gario o gwmpas y ddinas, cyn cael ei roi ar Dŵr Llundain.

 

Cafodd corff Llywelynei gladdu yn abaty Cwm-hir, sir Faesyfed.

 

Cipiodd Edward I drysorau Llywelyn, yn aur ac yn arian. Hefyd, aeth â'r Groes Naid, croes werthfawr Tywysogion Gwynedd. Roedd hi'n llawn gemau ac yn cynnwys darn o bren o'r groes y bu farw Iesu Grist arni.

 

Cafodd Gwenllïan, merch fach Llywelyn, ei hanfon i abaty Sempringham yn swydd Lincoln. Bu farw yno yn 54 oed. Fuodd hi erioed yng Nghymru. Mae un o fynyddoedd y Carneddau wedi cael ei enwi ar ei hôl yn ddiweddar.

gwenllian.jpg

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
Cilmeri, 11 Rhagfyr 1282 adnabod, arddel acknowledge
lleian (b) menyw sy’n rhoi ei bywyd i Dduw ac Iesu Grist nun