Coginio ar y bocs

Rhifyn 17 - Bwyd
Coginio ar y bocs
Loading the player...

Erbyn heddiw does dim angen i neb brynu llyfrau coginio. Mae'r rysetiau i gyd ar y we ac mae rhaglenni coginio ffantastig ar y teledu. Mae popeth yn digwydd o flaen eich llygaid a does dim rhaid darllen gair!

Pan fyddwch chi'n clywed y gair RAVIOLI beth sy'n dod i'ch meddwl chi? Tin o Heinz yn llawn sgwariau bach o basta gyda mymryn o rywbeth fel past yn y canol?

Ar Uned 5 dro yn ôl bu Geth yn dangos i Tara Bethan sut i wneud 'Ravioli Ffrwydrol' ac roedd e dipyn gwahanol i'r hyn rydw i wedi arfer ag e!

Gwyliwch i gael gweld ac mae'n siwr o godi awydd arnoch i'w goginio!