James Bond, Harry Potter a Dr Who – yng Nghymru!

Rhifyn 18 - Yma ac Acw
James Bond, Harry Potter a Dr Who – yng Nghymru!

Mae llawer o ffilmiau wedi cael eu gwneud yng Nghymru. Pam?

Mae gan Gymru olygfeydd anhygoel sy'n addas ar gyfer pob math o ffilm.  Meddyliwch am Harry Potter and the Deathly Hallows, Part II, er enghraifft. Roedd rhaid i'r criw ddod o hyd i draeth ar gyfer ffilmio'r rhan ble mae Harry, Ron a Hermione yn cysgodi mewn bwthyn sydd wedi ei wneud o gregyn - Shell Cottage - ac ar gyfer claddu Dobby, y corrach. Ble gwell nag un o draethau Sir Benfro?  Milltiroedd a milltiroedd o dywod glân; ardal unig heb lawer o bobl a dim atyniadau twristaidd i ddifetha'r olygfa; ardal naturiol, hardd.

Dewisodd y criw ffilmio Freshwater Beach West, Sir Benfro ar gyfer y rhan yma o'r stori ac er nad oedd bwthyn o gregyn yno i ddechrau, adeiladon nhw un.

harrypottershell.jpg

Oes ffilmiau eraill wedi cael eu gwneud yn Sir Benfro?

Oes. Yn 2010, cafodd y ffilm Robin Hood, gyda Russell Crowe a Cate Blanchett, ei ffilmio yn yr un ardal. Eto, roedd y traeth agored a'r môr yn berffaith ar gyfer yr olygfa lle mae'r Ffrancod yn dod yn eu cychod ac yn glanio. Gan fod y traeth mor eang, roedd yn berffaith ar gyfer y frwydr gyda'r ceffylau a'r holl ddynion yn ymladd.

robinhoodfilming.jpg

Mae'r ddwy ffilm wedi eu ffilmio yn Ne Cymru, oes ffilmiau wedi eu ffilmio yn y Gogledd?

Oes, llawer iawn. Yn y ffilm, First Knight, gyda Sean Connery a Richard Geere, rydyn ni'n gweld y Brenin Arthur a'i farchogion yng Nghamelot … neu a bod yn fyw cywir … rydyn ni'n gweld y Brenin Arthur a'i farchogion mewn set arbennig a gafodd ei hadeiladu ar lan y llyn yn Nhrawsfynydd. Mae'r golygfeydd yn drawiadol iawn ac maen nhw'n ychwanegu llawer at y ffilm.

Mae rhan o'r ffilm Quantum of Solace, gyda Daniel Craig yn chwarae rhan James Bond, wedi ei ffilmio yn ardal Llyn Peris, yn Eryri. Ardal hardd, addas ar gyfer yr antur.

Mae rhan o'r ffilm Clash of the Titans, gyda Sam Worthington, Liam Neeson, Gemma Arteton a Ralph Fiennes, wedi ei ffilmio yn Chwarel Dinorwig, Gwynedd a Niwbwrch, Ynys Môn, gan fod y golygfeydd yn yr ardaloedd hynny'n berffaith ar gyfer y stori.

Pa actorion enwog sydd wedi dod i Gymru i weithio?

Yn ogystal â'r rhai sydd wedi eu henwi'n barod, daeth Angelina Jolie i actio yn ardal Llyn Gwynant a chwareli llechi Eryri (Lara Croft and the Cradle of Life). Mae Hugh Grant wedi actio yn ardal Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Llansilin yng Nghanolbarth Cymru yn The Englishman who went up a Hill but came down a Mountain. Mae llawer o actorion enwog eraill wedi dod i actio yma hefyd.

robinhoodfilming1.jpg

Mae llawer o actorion enwog o India wedi bod i actio yma gan fod harddwch y mynyddoedd a'r llynnoedd yn ardal Eryri, yn arbennig, yn creu cefndir hyfryd i ffilmiau rhamant Bollywood.

snowdonia.jpg

 

hole.jpg

Beth am ffilmiau Cymraeg?

Rhaid peidio ag anghofio ffilmiau Cymraeg hefyd oherwydd mae llawer iawn o'r rhain wedi bod yn boblogaidd hefyd.

Mae Hedd Wyn, gyda Huw Garmon, wedi ei ffilmio mewn gwahanol rannau o Ogledd Cymru.  Roedd hon yn ffilm lwyddiannus iawn pan gafodd ei rhyddhau - cafodd hi ei henwebu ar gyfer Oscar hyd yn oed!

Mae Patagonia, gyda Matthew Rhys, Duffy a Nia Roberts wedi ei ffilmio mewn gwahanol rannau o Gymru - o Amgueddfa Sain Ffagan a Chaerdydd i Aberystwyth a Blaenau Ffestiniog - i enwi ond rhai lleoedd.

Mae Cymru'n lle da ar gyfer gwneud ffilmiau, felly.

Ydy - mae'n lle da iawn. Mae'r tir a'r golygfeydd yn amrywio o ardal i ardal ac felly maen nhw'n addas ar gyfer pob math o ffilm. Os ydych chi eisiau harddwch naturiol, mae Eryri, Sir Benfro a Bannau Brycheiniog yn berffaith. Os ydych chi eisiau hen weithfeydd yn gefndir, yna mae chwareli llechi Gogledd Cymru neu byllau glo De Cymru'n addas. Os ydych chi eisiau'r môr - mae digon o ddewis o leoedd ar yr arfordir. Os ydych chi eisiau hen gastell neu hen blasty, mae digon ar hyd a lled Cymru.  Mae rhywbeth yma ar gyfer unrhyw fath o ffilm!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
eang llydan wide
enwebu cynnig enw ar gyfer gwobr neu anrhydedd neu swydd arbennig to nominate