English Not?

Rhifyn 19 - Addysg
English Not?

Upper Mill,

Llanaber.

11 Gorffennaf 2013

Annwyl Olygydd,

Rydym yn ysgrifennu atoch i gwyno am yr holl Gymraeg y sydd yn yr ysgol gynradd leol. Mae ein mab yn chwech oed ac ar hyn o bryd, mae'n siarad Cymraeg, yn canu caneuon a hwiangerddi Cymraeg ac yn dechrau darllen Cymraeg. Ond, er mawr ofid i ni, dydy e ddim yn gallu darllen nac ysgrifennu Saesneg eto. Rydyn ni'n awyddus iawn iddo wneud hyn achos Saesneg rydyn ni'n ei siarad gartref, nid Cymraeg.

Rydyn ni o'r farn ei fod yn gwastraffu llawer o amser wrth wneud popeth drwy'r Gymraeg. Beth yw'r pwynt iddo ddysgu Cymraeg? Mae'n wir ein bod ni'n byw mewn ardal lle mae tua hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg, ond rydyn ni'n cymysgu â phobl sy'n siarad Saesneg fel arfer. Dydyn ni ddim yn teimlo ein bod ni'n colli dim byd yn gymdeithasol nac yn ddiwyllianol oherwydd ein bod ni'n methu siarad Cymraeg. Ac wrth gwrs, mae pawb yn gallu siarad Saesneg.

Yn ogystal â hyn, dydy'r athrawon ddim yn hoffi pan fydd y plant yn siarad Saesneg. Maen nhw'n dweud, "Siaradwch Gymraeg." wrthyn nhw drwy'r dydd, yn ôl fy mhlentyn. Dydyn nhw ddim yn mynd mor bell â gorfodi'r plant i siarad Cymraeg, ond rydyn ni'n poeni weithiau bod rhyw fath o 'English Not' ar waith yn yr ysgol.

Mae'n rhy bell o lawr i ni fynd â'n plentyn ni i ysgol Saesneg yn y dref agosaf bob dydd, felly does dim dewis gyda ni ond yr ysgol gynradd leol. Mae gormod o Gymraeg yno, yn ein barn ni, a hoffen ni weld hyn yn newid.

Yn gywir iawn,

 

Des a Beth Whittaker.