Y Welsh Not

Rhifyn 19 - Addysg
Y Welsh Not

Beth oedd yWelsh Not?

Darn o bren neu lechen oedd y Welsh Not, neu'r Welsh Note. Roedd y llythrennau W.N. neu'r geiriau Welsh Not/Welsh Note arno.

 

Pryd roedd yn cael ei ddefnyddio?

Roedd yn cael ei ddefnyddio yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif.

 

Sut roedd yn cael ei ddefnyddio?

Dim ond Saesneg roedd plant i fod i'w siarad yn yr ysgol. Felly, roedd y Welsh Not yn cael ei roi am wddf plentyn oedd yn siarad Cymraeg.

 

Beth oedd yn digwydd wedyn?

Os oedd y plentyn oedd â'r Welsh Not yn clywed rhywun arall yn siarad Cymraeg, roedd yn cael ei roi i'r plentyn hwnnw. Ar ddiwedd y dydd, roedd yr athro neu'r athrawes yn gofyn 'Who has the Welsh Not?' ac yn curo'r plentyn olaf i'w wisgo â chansen.

 

Beth oedd barn pobl am y Welsh Not?

Roedd rhai pobl yn erbyn y Welsh Not ac yn meddwl ei fod yn ffordd o ladd yr iaith Gymraeg. Hefyd, roedden nhw'n gweld bod plant yn dysgu bod yn gyfrwys a dweud celwydd am ei gilydd er mwyn peidio cael y gansen. Ond roedd rhai rhieni'n falch bod eu plant yn siarad Saesneg bob dydd yn yr ysgol.

 

Oedd rhywbeth tebyg i'r Welsh Not mewn gwledydd eraill?

Oedd, roedd rhywbeth tebyg i'r Welsh Not mewn sawl gwlad arall, fel Iwerddon, Llydaw a Kenya. Yma eto, roedden nhw'n ceisio cael plant i siarad Saesneg yn lle'r iaith frodorol.

omedwards.jpg

O.M. Edwards a'r Welsh Not

Bachgen o Lanuwchllyn oedd Owen Morgan Edwards. Pan oedd yn naw mlwydd oed, aeth i Ysgol y Llan. Ar y diwrnod cyntaf, sylwodd ar y gansen ar ddesg yr athrawes, a dysgu am y Welsh Not.

'Yr oedd yr athro wedi dweud wrthyf yn ddistaw am beidio siarad gair o Gymraeg; ond yr oedd y bechgyn drwg... yn gwneud popeth fedrent i wneud i mi weiddi, ac o'r diwedd llwyddasant. Collais fy nhymer... Gydag imi ddweud fy Nghymraeg cryf, chwarddodd pawb, a rhoddwyd llinyn am fy ngwddf a thocyn pren trwm wrtho...'

 

Cafodd O.M. Edwards ei gosbi sawl gwaith am wisgo'r Welsh Not, ac roedd yn casáu'r ysgol oherwydd hyn: 

'Blynyddoedd chwerw oedd dyddiau ysgol i mi.'

 

Pan oedd yn ddyn, aeth O.M. Edwards ymlaen i gyhoeddi cylchgrawn i blant Cymru, o'r enw Cymru'r Plant (1892). Yn y cylchgrawn, roedd llawer o wybodaeth am Gymru, byd natur, cerddoriaeth, barddoniaeth a chwaraeon. Hefyd, ym 1907, daeth yn Brif Arolygwr ysgolion Cymru. Roedd yn annog athrawon i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddysgu ac i roi hanes lleol iddyn nhw.

 

Mab O.M. Edwards oedd Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru.  

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cansen (b) darn hir o bren cane
cyfrwys slei sly
sly yn perthyn i fro native, indigenous
cyhoeddi argraffu rhywbeth i bawb gael ei weld to publish
sylfaenydd rhywun sy’n dechrau rhywbeth founder