Pwy oedd Dewi?

Rhifyn 2 - Dathlu
Pwy oedd Dewi?

gan Jason Wynne Hughes, 13 oed

'Be sy'n gneud Sant?' medda fi wrth Taid yr wythnos ddiwethaf. 'Byw efo dy Nain am hannar can mlynadd! Pam ti'n gofyn?' medda Taid.

Wel, mi ddudish i bod Mus Tomos Welsh wedi gofyn i mi sgwennu am Dewi Sant, am 'i fod o'n bwysig i ni yng Nghymru, a does yna ddim llawar o bobol dda wedi bod yma beth bynnag!

Geni Dewi

Yn ôl Taid, mi oedd Dewi Sant yn byw ers talwm iawn, iawn yn ôl, tua'r chweched ganrif cyn bod sôn am Bryn Fôn na Dafydd Iwan na neb. Ceredig oedd enw'i daid o, a Sant oedd enw'i dad o. Pan gafodd o ei eni, mi oedd hi'n storm ofnadwy yn bob man, a dim jyst storm mewn cwpan de fel typhoo ond storm gwynt a glaw go iawn. Ond reit uwch ben bwthyn Non, mam Dewi, mi oedd hi'n braf neis efo adar bach yn canu a pawb yn sych. 

'Iawn ta!' medda pawb, 'Mi geith hwn fod yn Sant ar Wêls. Ella gawn ni dywydd braf!' 

Dipyn bach cyn geni Dewi mi oedd Sant Padrig wedi cael ei hel o 'ma achos o'dd y bobol bwysig yn gwybod bod Dewi ar 'i ffordd. Mi a'th hwnnw i fyw i Iwerddon neu rwla. 

Ta waeth, mi oedd Dewi ni yn ddyn da. O'dd o'n gallu mendio pobol sâl, a sâl go iawn hefyd, pobol o'dd wedi disgwyl yn hir i ga'l eu mendio, jyst fel heddiw. Os oedd y bobol isio dŵr, mi o'dd Dewi yn gweddïo, ac mi oedd yna ffynnon yn codi wrth ei draed. A deud y gwir, mi o'dd o'n medru gneud dŵr yn bob man, yn union fel Taid, medda Nain. 

Stori am hances

Yr adag hynny, cyn bod sôn am am rygbi na ffwtbol, mi oedd miloedd o bobol yn mynd i wrando ar Dewi Sant yn pregethu, ac un tro, mewn lle bach efo enw mawr, Llanddewibrefi, dyma ryw hen betha yn y cefn yn gweiddi bod nhw ddim yn 'i weld na'i glwad o.

'Iawn!' medda hwnnw, ''Sgin rywun hancas lân?'

'Dyma chdi,' medda ryw foi. A dyma Dewi yn rhoi'r hancas bocad ar lawr a sefyll arni.

Cyn pen dim, mi o'dd yr hancas wedi codi, dim fel magic carpet, ond efo'r ddaear yn sownd nes oedd yno fynydd mawr. Ma' Mistyr Evans Jograffi yn deud mai rhew yn Oes yr Iâr sydd wedi gneud mynyddoedd, ond dim yn Llanddewibrefi, wir yr! Ar ôl hyn mi gafodd Dewi ei wneud yn Archesgob, ac mae hynny fel bos ar yr esgobs erill i gyd. 

Pam rydan ni'n gwisgo daffodil?

Mi wnaeth Dewi farw yn 589, ac mi ddudodd pobol bwysig Cymru y dylan ni i gyd wisgo daffodil i'w gofio fo. O'dd yna frwydr fawr wedi bod lot yn ôl rhwng ni a nhw yn Lloegar, a ni wnaeth ennill. Mi oedd yna filoedd o daffodils yn y cae, felly dyna pam mai cwningen pedr ydi symbol Cymru. Diolch byth na dim cae rwdins oedd o, medda Taid.

A dyna pam mae Dewi yn nawddsant ar Wêls i gyd. Fel mae Padrig yn 'Werddon, Andrew yn Sgotland, a George yn nawddsant dillad rhad.

'Gwnewch y pethau bychain,' ddudodd Dewi, medda Nain. Felly mi wna i orffan rwan, rhag ofn i hwn fynd yn rhy hir i Mus Tomos!

stdavids2.jpg

Awdur: Ieuan Parry

Oeddech chi'n gwybod?

Tyddewi yn Sir Benfro ydy'r ddinas leiaf ym Mhrydain. Ie, dinas!

Dim ond 1,797 o bobl sy'n byw yn y 'pentref' bach yma, ond mae'n cael ei ystyried yn ddinas gan bod Eglwys Gadeiriol yno.

Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi wedi ei hadeiladu ar safle mynachlog Dewi Sant ac yn ôl y sôn dyma lle'r oedd Dewi'n byw pan fu farw yn 589 OC.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
mendio gwella heal
hancas hances, macyn handkerchief
rwdins mwy nag un rwden, llysieuyn swedes