Eliffant yn "siarad"

Rhifyn 21 - Gwahanol
Eliffant yn "siarad"

Ydy anifeiliaid yn gallu cyfathrebu â'i gilydd?

Wel, ydyn, wrth gwrs.

  • Mae cwningod yn taro'r ddaear â'u traed pan fydd perygl er mwyn rhybuddio'i gilydd i fynd i guddio.
  • Mae adar yn gwneud synau arbennig i ddangos i'w gilydd pan fydd perygl gerllaw.
  • Mae ceiliogod adar yn canu'n hyfryd er mwyn denu cymar.

Rhai enghreifftiau'n unig sydd uchod o anifeiliaid yn cyfathrebu â'i gilydd.

 

Ydy anifeiliaid yn gallu cyfathrebu â dyn?

Wel, "ydyn" yw'r ateb eto.

Pan fydd ein ci ni eisiau sylw, er enghraifft, mae'n dod ac yn rhoi ei bawen ar fy nghoes ac yna, mae'n mynd â fi tuag at beth bynnag mae e eisiau - y bocs bwyd fel arfer neu weithiau mae'n mynd â fi at y drws os yw e eisiau mynd allan.

Mae fy  nghi i'n deall geiriau hefyd.  Yn wir, mae'n bosib dysgu ci - ac unrhyw anifail arall, dw i'n siŵr - i ymateb i:

  • Eistedd
  • Amser bwyd
  • Wyt ti eisiau mynd am dro?
  • Drwg!

 

Fodd bynnag, nid yw anifeiliaid yn medru ateb yn ôl drwy ddefnyddio geiriau - fel arfer - ond mae'n debyg bod un eliffant, yn Ne Korea, wedi dechrau defnyddio geiriau i gyfathrebu â phobl.

Mae Koshik, eliffant sy'n byw yn Sŵ Everland, yn Ne Korea, wedi dysgu sut i "ddweud" y geiriau hyn:

  • annyong (helo)
  • anja (eistedd)
  • aniya (na)
  • nuo (gorwedd)
  • choah (da)

Gan nad oes ganddo wefusau fel ni a gan fod gwddf eliffant yn wahanol i wddf person, mae Koshik wedi gorfod dod o hyd i ffordd wahanol o gynhyrchu'r sain. Mae'n rhoi ei drwnc i mewn i'w geg ac yna'n cynhyrchu'r sain.

imagethemepark_500x315.jpg

Er mwyn asesu pa mor dda yw ei ynganiad, gofynnodd gwyddonwyr i bobl sy'n siarad iaith Korea wrando ar recordiadau o'r eliffant yn siarad ac yna sillafu beth roedden nhw wedi ei glywed. Roedd y rhan fwyaf yn gallu sillafu'r geiriau. Felly, mae Koshik yn ynganu'n eitha clir.

 

Mae'n debyg bod Koshik wedi dechrau "siarad" pan oedd tua 14 oed. Ar y pryd, fe oedd yr unig eliffant yn y sŵ ac efallai ei fod wedi cynhyrchu'r geiriau er mwyn cyfathrebu a bondio gyda'i giperiaid.

infobox.jpg (1)

imagedolphin.jpg

Mae'r dolffin trwyn potel yn byw oddi ar arfordir Gorllewin Cymru ac yn "siarad" ag acen Gymreig!

infobox2.jpg (1)

cowimage.jpg

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
ynganiad y ffordd mae’n dweud geiriau pronunciation
ymadroddion lluosog “ymadrodd” – geiriau arbennig expressions
ochneidio sŵn cwyno to groan
dod i’r casgliad dod i ddeall to conclude