Ffitrwydd - Ddoe a heddiw

Rhifyn 22 - Ffitrwydd
Ffitrwydd - Ddoe a heddiw

Problemau ffitrwydd heddiw

Dyma ddwy broblem am ffitrwydd pobl heddiw:

 

1.  Pobl sy'n llai heini 

Mae pobl heddiw yn llai heini na phobl yn y gorffennol.

facttable.jpg

Dylen ni fod yn cerdded 10,000 cam y dydd i fod yn egnïol. Ond fel arfer, mae pobl heddiw yn cerdded rhwng 900 a 3,000 cam y dydd.

 

2.   Pobl ordew

Mae mwy a mwy o bobl yn ordew - yn 1980, tua 8% o'r boblogaeth oedd yn ordew, ond erbyn hyn mae tua 24% o'r boblogaeth yn ordew.

bodyimage2.jpg

bodyimage.jpg (1)

Pam mae pobl yn mynd yn ordew?

Mae pobl yn mynd yn ordew achos:

  • eu bod nhw'n bwyta gormod o galorïau
  • nad ydyh nhw'n yn symud digon

Mae mwy am fwyd yn Rhifyn 17 (Bwyd) o Gweiddi.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
heini bywiog nimble, agile
corfforol yn defnyddio’r corff physical
egnïol yn defnyddio nerth ac egni active
gordew yn pwyso gormod obesity