Pwy yw'r Inuit?
Pobl sy'n byw yn y Cylch Arctig yw'r Inuit. Ar un adeg, roedden nhw'n byw mewn iglws ac roedden nhw'n teithio o le i le i hela am fwyd. Erbyn heddiw, maen nhw'n byw mewn pentrefi a threfi ond mae rhai'n dal i adeiladu iglw pan fyddan nhw'n mynd allan i hela.
Mae'r Inuit yn dal i chwarae gemau traddodiadol hefyd, gemau sy'n datblygu sgiliau corfforol neu sgiliau meddwl. Roedd angen datblygu'r sgiliau yma yn y gorffennol er mwyn medru hela.
Dyma rai o gemau'r Inuit:
Taflu ar flanced
Gêm ar gyfer tua 30 o bobl
Yn y gêm hon, mae'r bobl yn sefyll o gwmpas blanced fawr gan ddal ymyl y flanced. Mae un person yn sefyll ar ganol y flanced. Gyda'i gilydd, mae'r bobl yn ysgwyd y flanced, gan daflu'r person yn y canol i fyny i'r awyr. Rhaid i'r person yn y canol geisio glanio ar y flanced heb syrthio.
Gêm neidio
Gêm i nifer o bobl ond rhaid i bawb gymryd eu tro
Cyn dechrau chwarae'r gêm, mae'r targed, e.e. darn o ffwr neu asgwrn yn cael ei hongian yn yr awyr. Yna, mae pawb yn cymryd eu tro i geisio cicio'r targed hwn.
I ddechrau, maen nhw'n sefyll gyda'u dwy droed gyda'i gilydd ar y ddaear. Yna, maen nhw'n neidio er mwyn ceisio cicio'r targed gyda'r ddwy droed. Rhaid iddyn nhw lanio ar y ddwy droed, heb syrthio.
Pan fydd pawb wedi cael tro, mae'r targed yn cael ei godi'n uwch ac mae pawb yn dechrau eto. Y person sy'n cicio'r targed uchaf sy'n ennill.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
gemau traddodiadol | hen gemau | traditional games |