Ga i beintio ieir bach yr haf
Ymhobman a bywiogi'r stryd?
Ychwanegu lliwiau a deffro pobl?
Gwneud iddyn nhw chwerthin a chrio?
Rhoi rhywbeth iddyn nhw siarad amdano?
Byddai'r ieir bach yn hedfan uwchben
Yn saethu ar draws y palmant,
yn cropian i fyny'r waliau
i chwilio am flodau
i gasglu neithdar
melys, melys, melys.
A wnaiff pobl sylwi?
Fydd hi ots ganddyn nhw?
Wnan nhw ganmol?
Wnan nhw gwyno?
Fydd hi ots gen i beth wnan nhw?
Na! Dw i am beintio ieir bach yr haf ym mhobman
A bywiogi'r stryd i gyd!
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Neithdar | yr hyn mae gwenyn yn ei gasglu i wneud mêl | Nectar |