Y llun mwyaf gwerthfawr yn y byd

Rhifyn 27 - Dyfal donc a dyrr y garreg
Y llun mwyaf gwerthfawr yn y byd

Pa un yw'r llun mwyaf gwerthfawr yn y byd tybed?

Beth am chwilio ar y we i weld beth yw gwerth rhai o weithiau'r meistri? Mae rhai ohonyn nhw'n cael eu gwerthu am gannoedd o filiynau o bunnau.

Efallai bod rhai lluniau mor werthfawr fel nad yw'n bosib rhoi pris arnyn nhw. Faint fyddai gwerth y Mona Lisa petai'n cael ei werthu, er enghraifft?

Efallai bod un llun sydd hyd yn oed yn fwy gwerthfawr na'r Mona Lisa, sef y Winllan Goch (The Red Vineyard), gan Vincent van Gogh.

image1.jpg (1)

Pam mae'r llun yma mor werthfawr? Oherwydd dyma'r unig lun i Vincent van Gogh ei werthu yn ystod ei fywyd, er iddo beintio dros 800 o luniau.

Vincent van Gogh heddiw ...

Erbyn heddiw, wrth gwrs, mae Vincent van Gogh yn cael ei ystyried yn un o'r meistri ac mae amgueddfa arbennig yn cynnwys ei waith yn Amsterdam.

image2.jpg (2)

Heddiw, mae ei luniau'n enwog iawn ac maen nhw'n werth miliynau o bunnau yr un. Mae'n debyg bod rhai o'i luniau o flodau'r haul yn werth dros gan miliwn o bunnau, er enghraifft. Ond, yn ystod ei oes, ychydig iawn o bobl oedd yn gwybod amdano ac nid oedd ei waith yn cael ei dderbyn ymhlith y rhai oedd wedi dod ar ei draws. 

Mae'n debygol na fyddai Vincent yn enwog heddiw ac na fyddai wedi dod i sylw neb oni bai am un person fu'n gweithio'n galed i hyrwyddo ei waith - ei chwaer-yng-nghyfraith, Johanna van Gogh-Bongers. Roedd hi'n briod â brawd Vincent, Theo, a hi sy'n gyfrifol am ddod â'i weithiau a'i fywyd i sylw'r cyhoedd.

Johanna van Gogh-Bongers

image3.jpg (1)

Roedd Theo, gŵr Johanna, a Vincent yn agos iawn at ei gilydd ac, ar ôl marwolaeth Vincent, dymuniad Theo oedd dangos rhai o'i weithiau i'r byd, a gwneud yn siŵr bod y byd yn dod i'w barchu. Yn anffodus, ni lwyddodd i wneud hynny, gan iddo yntau farw chwe mis ar ôl ei frawd.

Gyda'i farwolaeth, cafodd Johanna ei gadael ar ei phen ei hun i ofalu am eu mab bach mewn fflat oedd yn llawn paentiadau gan Vincent. Penderfynodd ddychwelyd o Baris, lle roedd hi a Theo wedi bod yn byw, i'r Iseldiroedd, a symudodd yno gyda bocsys di-rif o baentiadau diwerth nad oedd yn bosib eu gwerthu.

Roedd Johanna'n benderfynol o wireddu dymuniad ei gŵr ac felly dechreuodd gynnal arddangosfeydd o waith Vincent - yn ei chartref ei hun yn aml iawn. Byddai'n gwahodd arbenigwyr o fyd celf i'w thŷ ac yn eu gwahodd i edrych ar y gweithiau, eu gwerthfawrogi a'u prynu. Mae'n debyg iddi werthu tua chwarter Lluniau Vincent o'i chartref ei hun.

Dechreuodd gynnal arddangosfeydd mewn lleoedd eraill hefyd, gan dalu am y rhain â'i harian ei hun yn aml iawn. Yn wir, hi ei hun oedd yn rhedeg llawer o'r arddangosfeydd hyn.

Bu'n gweithio am y 34 mlynedd nesaf o'i bywyd yn hyrwyddo gwaith Vincent ac yn gwneud yn siwr ei fod yn ennill ei le yn hanes celf. Dyfal donc yn wir!

Heb Johanna, mae'n bosib na fydden ni byth wedi cael y cyfle i weld Blodau'r Haul.

image4.jpg

na'r Noson Serennog.

image5.jpg

 

na Hunanbortread Vincent.

image6.jpg

 

nac unrhyw lun arall o'i eiddo.

image7.jpg

Does dim rhyfedd fod y llun mor werthfawr gan fod ganddo hanes mor ddiddorol!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
ffranc hen arian Ffrainc cyn yr Ewro franc
gwinllan perllan lle mae grawnwin yn tyfu vineyard
hyrwyddo tynnu sylw at to promote
di-rif cymaint fel nad oedd hi’n bosib eu cyfrif numerous
gwireddu breuddwyd gwneud i freuddwyd ddod yn wir to realize a dream
chwyldro protest fawr yn erbyn llywodraeth neu system revolution
ffoi rhedeg i ffwrdd to flee