Cymry ym myd ffasiwn

Rhifyn 28 - Ffasiwn
Cymry ym myd ffasiwn

mary.jpg

Cefndir

Yn Llundain cafodd Mary Quant ei geni a'i magu, ond roedd ei rhieni'n dod o gymoedd De Cymru cyn gweithio fel athrawon yn Llundain.

 

Astudio a dechrau gweithio

Astudiodd Mary Quant arlunio yng Ngholeg Goldsmiths, Llundain ac yna, aeth i weithio gyda chwmni gwneud hetiau yn Mayfair. Dechreuodd hi gynllunio dillad a chael sylw mewn cylchgronau ffasiwn.

college.jpg

Gwaith pwysicaf

Mae Mary Quant fwyaf enwog am greu'r 'sgert fini'  neu'r 'mini' yn y 1960au. Roedd sgertiau wedi byrhau ers y 1950au, ac roedd hi'n hawdd i ferched symud ynddyn nhw. Cyn hynny, roedd hi'n anodd i ferched redeg am fws! Roedd y merched a oedd yn dod i brynu dillad Mary yn gofyn iddi wneud ei sgertiau'n fyrrach o hyd. Yn y diwedd, roedden nhw'n fyr iawn, a galwodd Mary'r sgert yn 'mini' ar ôl ei hoff gar, y Mini.

miniskirt.jpg

Yn y 1970au, daeth 'hot pants' Mary Quant yn boblogaidd iawn. Yn ddiweddarach, buodd hi'n gweithio mwy ar nwyddau tŷ a cholur. 

 


julien.jpg

Cefndir

Mae Julien Macdonald yn dod o Ferthyr ac aeth i Ysgol Cyfarthfa. Pan oedd yn ifanc, dysgodd ei fam ef i wau, ac ar ôl gorffen yn yr ysgol, aeth i Brifysgol Brighton i astudio ffasiwn dillad wedi'u gwau, ac yna bu'n gweithio yn Lundain.

 

Gwaith pwysicaf

Gweithiodd gyda chwmni Chanel fel prif gynllunydd dillad wedi'u gwau. Yna, lansiodd ei label ei hun a daeth ei ddillad yn boblogaidd iawn gyda sêr fel Beyonce, Kylie Minogue, Cheryl Cole, Jessie J a llawer mwy. Yn 2001, dyluniodd Macdonald wisg newydd i'r rhai sy'n gweini ar awyrennau British Airways.

celebs.jpg

 


 

laura.jpg

Cefndir

Cafodd Laura Ashley ei geni yn Nowlais, ger Merthyr Tudful. Cafodd ei magu yn Llundain ond roedd hi'n aml yn dod ar wyliau gyda'r teulu yn Ne Cymru.

 

Dechrau busnes

Roedd hi'n berson creadigol iawn ac yn hoffi gwau, gwnïo a thorri patrymau. Dechreuodd argraffu patrymau bach ar ddefnyddiau fel cotwm. Ar y dechrau, roedd hi'n gwneud pethau fel sgarffiau, llieiniau llestri a matiau bwrdd. Wedyn aeth ati i wneud ffrogiau a phob math o ddillad eraill. Roedd ei dillad yn fenywaidd iawn ac yn debyg i ddillad Oes Victoria.

la-dress.jpg

Symud i Gymru

Symudodd Laura Ashley i Fachynlleth yn 1961, agor siop yno, a byw yn y fflat uwchben y siop. Roedd llawer o bobl leol yn gwnïo i Laura Ashley. Yn 1967, agorodd ffatri yng Ngharno, Powys. Roedd hyd at 130 o bobl yn gweithio yno. Roedd 'Gwnaed yng Nghymru' ar bob dilledyn gafodd eu gwnïo yn y ffatri yng Ngharno.

 

Siopau poblogaidd o hyd

Daeth Laura Ashley yn filiwnydd ac roedd ganddi dai yn ne Ffrainc, Brwsel a'r Bahamas. Bu farw'n sydyn ar ôl cwympo i lawr y grisiau yn ystod y nos yng nghartref ei merch. Mae siopau Laura Ashley yn boblogaidd o hyd ac yn gwerthu dillad, dodrefn a phapur wal.

shop.jpg

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
byrhau gwneud yn fyrrach to shorten
nwyddau tŷ pethau mae pobl yn eu defnyddio yn y tŷ household goods
gwau gwneud dillad gyda gwlân to knit
cynllunydd person sy’n cynllunio designer
gweini mynd â bwyd/diod i bobl to serve
creadigol gallu meddwl am syniadau newydd creative
llieiniau llestri pethau i sychu llestri tea towels
benywaidd merchetaidd feminine
Gwnaed yng Nghymru wedi cael ei wneud yng Nghymru Made in Wales