Dim dŵr glân

Rhifyn 3 - Dŵr
Dim dŵr glân

Mae dŵr yn bwysig iawn. Rhaid i ni gael dŵr i fyw.

Rhaid i ni gael dŵr i'w yfed. Rhaid i ni gael dŵr i goginio. Rhaid i ni gael dŵr i ymolchi - i gael gwared ar germau a bacteria o'n cyrff. Rhaid i ni gael dŵr i olchi ein dillad. Rhaid i ni gael dŵr ar gyfer systemau carthffosiaeth, sef toiledau a draeniau sy'n cael gwared ar beth sydd yn y toiledau.

Rydyn ni'n lwcus. Mae gennym ddigon o ddŵr … ond nid dyna'r sefyllfa mewn rhannau eraill o'r byd! 

Cario dŵr

in23_0433.jpgEdrychwch ar y prif lun ar ben y dudalen o Aminata Dicko (14 oed) yn casglu dŵr yn Ourare Alaye Tem, Mondoro, Douentza. (Llun gan WaterAid/Layton Thomas.)

Yn y gwledydd sy'n datblygu - sef rhannau o Asia, Affrica a De America - mae gwragedd a phlant yn treulio oriau bob dydd yn cario dŵr o ffynhonnau, nentydd ac afonydd i'w cartrefi. Maent yn gorfod cerdded sawl cilometr bob dydd ac mae hyn yn cymryd llawer o amser. Oherwydd hynny, mae'r gwragedd yn methu gweithio ac ennill arian ac mae'r plant yn methu mynd i'r ysgol.

Mae gwragedd yn Asia ac Affrica'n cario tua 20 kg o ddŵr ar eu pennau. Yn aml iawn, mae'r dŵr maent yn ei gasglu yn frwnt neu'n fudr ac yn llawn germau, ond nid oes ganddynt ddewis!

Llun: Gwragedd a merched yn cerdded adref gyda'r dŵr maent wedi ei gasglu, Gopalpur Mushari, India gan WaterAid/Jon Spaull.

 

Oeddech chi'n gwybod?

  • Mae 844 miliwn o bobl y byd yn gorfod byw heb ddŵr glân. Mae hyn yn golygu bod un o bob wyth person yn y byd yn defnyddio dŵr brwnt neu fudr ac afiach ar gyfer yfed, coginio ac ymolchi a golchi.
  • Mae 2.6 biliwn o bobl y byd - bron dau draean o bobl y byd - yn byw heb systemau carthffosiaeth.
  • Gall un gram o ysgarthion neu garthion person, gynnwys 10,000,000 firws, 1,000,000 o facteria, heb sôn am gannoedd o barasitiaid sy'n bwyta'r corff.
  • Mae 4,000 o blant yn marw bod dydd o ddolur rhydd - oherwydd nad oes dŵr glân a systemau carthffosiaeth yn agos - sef un plentyn bob ugain eiliad.
  • Erbyn i chi ddarllen hwn, felly, bydd o leiaf un plentyn wedi marw - gan nad oes ganddo ddŵr glân i'w yfed a gan nad oes system carthffosiaeth dda gerllaw. 

et29_007.jpg

Llun: Gwraig yn golchi dillad yn afon Bahiri Wejira, Ethiopia ganWaterAid/Marco Betti.

Golchi dwylo

mali6_0294.jpgPetai plant a phobl yn gallu golchi eu dwylo â dŵr glân a sebon, byddai nifer yr achosion o ddolur rhydd yn haneru, bron (47%).

O'r chwith i'r dde uchod: Plentyn yn cario dŵr brwnt mae wedi ei gasglu yn y ffynnon, Ené, Koro, Mali gan WaterAid/Layton Thomas; plentyn yn chwarae â dŵr glân o'r pwmp llaw newydd, Hambale, Chipenbele, Zambia gan WaterAid/Anna Kari Thompson.

Annheg

  • Mae person yn y byd sy'n datblygu yn defnyddio 10 litr o ddŵr bob dydd. 
  • Mae person yn Ewrop yn defnyddio 200 litr o ddŵr bob dydd. 
  • Mae person yng Ngogledd America'n defnyddio tua 400 litr bob dydd.
  • Dros yr 20 mlynedd nesaf, bydd faint o ddŵr mae pobl yn ei ddefnyddio yn cynyddu 40%.
Water Aid

Mae elusennau fel Water Aid yn gweithio er mwyn gwneud yn siwr bod pobl mewn gwledydd sy'n datblygu yn cael dŵr glân a systemau carthffosiaeth da. Yn ogystal, maen nhw'n addysgu pobl dlotaf y byd am bwysigrwydd golchi dwylo a materion sy'n ymwneud â hylendid.

Gwybodaeth a lluniau drwy garedigrwydd WaterAid. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.wateraid.org

et29_612.jpg

Llun: Merch yn yfed o'r tap, May Ayni, Ethiopia gan WaterAid/Marco Betti.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
carthffosiaeth toiledau a draeniau sanitation, sewerage
y byd sy’n datblygu rhannau o Asia, Affrica a De America the devloping world
ysgarthion, carthion gwastraff sy’n cael ei waredu o’r corff faeces
hylendid mae’n gysylltiedig â bod yn lân ac yn iach hygiene
parasit,-iaid rhywbeth sy’n byw ar y corff ac sy’n cymryd maeth / bwyd o’r corff parasite,-s
dolur rhydd problem yn y coluddyn, lle mae’n rhaid mynd i’r toiled yn aml iawn diarrhoea
annheg rhywbeth sydd ddim yn deg unfair