Dwy linell fach bwysig

Rhifyn 30 - Pedwar Ban y Byd
Dwy linell fach bwysig

Mae symbol mathemategol wedi teithio i bedwar ban y byd, diolch i Gymro o Dde Cymru.

Pwy oedd y dyn?

robertrecordeproffil.jpg

Ffeithiau diddorol:

  • Roedd Robert Recorde yn feddyg i'r brenin Edward VI ac yna, ar ôl ei farwolaeth, i'r Frenhines Mari - Mari Waedlyd.
  • Yn 1549, roedd e'n bennaeth y bathdy brenhinol ym Mryste - lle roedden nhw'n gwneud arian.

Pam roedd e'n bwysig?

  • Fe oedd y person cyntaf i gyhoeddi llyfr rhifyddeg yn Saesneg.
  • Fe ddyfeisiodd y symbol byd-enwog yma: 

=.jpg

Dyma'r symbol sy'n dangos bod rhywbeth yn hafal i rywbeth arall, e.e. 

2+2=4.jpg

Disgrifiodd e'r symbol fel "Dwy linell gyfochrog yr un maint - dwy linell sy'n berffaith hafal i'w gilydd, fydd byth yn dod at ei gilydd."

  • Mae pobl ar draws y byd yn defnyddio'r symbol yma heddiw - symbol gan Gymro i bedwar ban y byd.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
mathemategydd arbenigwr mewn mathemateg mathematician
bathdy brenhinol lle mae nhw'n gwneud arian royal mint
Bryste tref yn ne-orllwein Lloegr Bristol
rhifyddeg adio, tynnu, lluosi a rhannu arithmetic
dyfeisio creu to invent
yn hafal i yn gyfartal â equals
equals ochr yn ochr parallel