1946: dynodi Penrhyn Gŵyr yn ardal o harddwch naturiol arbennig

Rhifyn 32 - Blynyddoedd yn gorffen â 6
1946: dynodi Penrhyn Gŵyr yn ardal o harddwch naturiol arbennig

Royal_National_Lifeboat_Institution.svg.jpg

Yn 1946, cafodd Penrhyn Gŵyr ei ddynodi’n ardal o harddwch naturiol arbennig.

Mae arfordir Cymru’n beryglus!

Ydy, mae arfordir Cymru’n hardd iawn, ac ers i Lwybr Arfordir Cymru gael ei agor, mae ymwelwyr yn tyrru yma. Ond mae’r arfordir yn beryglus hefyd! A wyddech chi fod mwy o bobl yn marw ar yr arfordir nag sy’n marw mewn damweiniau seiclo ar y ffordd fawr yng Nghymru?

Yn 2015, cyhoeddodd y RNLI fod 19 o bobl wedi colli eu bywydau o gwmpas arfordir Cymru yn 2014, ond doedd 69% o’r rheini ddim wedi bwriadu mynd i’r dŵr. Gallai’r ffigurau fod wedi bod yn llawer uwch oherwydd achubodd criwiau a gwarchodwyr bywyd y RNLI 84 o fywydau’r un flwyddyn.

Dros y pum mlynedd diwethaf mae cyfartaledd o 18 person y flwyddyn wedi marw. Ond nid yn y dŵr y mae’r rhan fwyaf o bobl yn marw.

 ThinkstockPhotos-99690955_small.jpg

Gŵyr

Dyma rai ystadegau:

  • O’r 89 o bobl a fu farw ar yr arfordir dros y pum mlynedd diwethaf, roedd dros hanner (57%) yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel rhedeg, dringo a mynd mewn cychod.
  • Dros yr un cyfnod o amser, bu farw 31% ar ôl llithro a chwympo wrth gerdded a rhedeg. Dyna’r achos marwolaeth mwyaf.
  • Bu farw 25% ar yr arfordir wrth nofio, neidio i mewn i’r dŵr ac wrth hamddena’n gyffredinol.
  • Bu farw 8% o’r 89 person wrth bysgota, a 7% wrth eu gwaith.
  • Mae dynion yn llawer mwy tebygol o fynd i drafferthion ar yr arfordir na menywod – dynion oedd tri chwarter y rhai a fu farw ar yr arfordir dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae’r RNLI yn gobeithio haneru nifer y bobl sy’n marw ar arfordir Cymru erbyn 2024. Roedd eu hymgyrch yn 2015 – ‘Respect the Water’ yn rhybuddio pobl i fod yn ymwybodol o beryglon yr arfordir, yn ogystal â’r dŵr ei hun. Dangoswyd y ffilm mewn sinemâu yn ystod yr haf ac mae hefyd ar gael i’w gweld ar y wefan www.rnli.org/respectthewater. Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd digwyddiadau i dynnu sylw at yr ymgyrch. Yn Aberystwyth, daeth achubwyr bywyd RNLI at ei gilydd i ddangos i bobl pa mor drwm yw metr ciwbig o ddŵr, a’r pwysau a allai fod ar eich ysgyfaint os ydych chi’n digwydd syrthio o dan y dŵr.

 

Addasiad o: http://rnli.org/NewsCentre/Pages/Images-RNLI-in-Wales-reveals-coastal-fatality-figures-as-summer-safety-campaign.aspx