Dyna ddywedodd Americanwr enwog unwaith – ac mae’n berffaith wir! Heb wrthdaro, mae bywyd yn gallu bod yn ddiflas ac yn undonog.
Ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
SEFYLLFA | MATH O WRTHDARO |
Rydych chi wrth eich bodd yn mynd i ymarfer pêl-droed bob nos Wener. Yr wythnos diwethaf, roedd yn rhaid i chi fynd allan gyda’ch teulu a’r wythnos hon mae ffrind wedi gofyn i chi fynd gyda fe i’r sinema. |
Mewnol – y person yn ei erbyn ei hun. |
Mewn parti, rydych chi’n treulio llawer o amser gyda Justin – jyst yn siarad. Mae ffrind arall i chi, Heulwen, wedi dechrau stori am y ddau ohonoch chi. |
Allanol – y person yn erbyn ei ffrind |
Mae bachgen hŷn wedi bod yn eich bwlio chi ar y bws ysgol ers mis. Mae’n galw enwau arnoch chi ac yn eich pwnio. O’r diwedd, rydych chi’n cael llond bol arno ac yn gweiddi, ‘Paid byth â chyffwrdd ynddo i eto!’ |
Allanol – y person yn erbyn person arall |
Mae gennych chi brosiect i’w orffen erbyn dydd Llun. Mae’n nos Sul a dim ond ei hanner rydych chi wedi ei wneud. Rydych chi wedi cael mis i wneud y prosiect ac mae’ch athro chi wedi dweud ei fod yn disgwyl i chi gael gradd uchel am y prosiect. |
Mewnol – y person yn erbyn y person |
Mae tîm rygbi bechgyn ardderchog yn dy ysgol. Pan rydych chi a grŵp o ffrindiau yn gofyn i Bennaeth yr ysgol am gael dechrau tîm rygbi i ferched, yr ateb yw, ‘Syniad gwych ond does gennyn ni ddim digon o arian’. |
Allanol – y person yn erbyn y sefydliad |
Mae’ch tad yn mynd â chi a’ch ffrindiau i gêm bêl-droed fawr yn y dref. Rydych chi wedi dechrau’n ddigon buan ond rydych chi wedi colli’r ffordd. Rydych chi’n dweud eich bod chi’n meddwl eich bod chi wedi mynd heibio i’r cae pêl-droed ond mae’ch tad yn dweud, “Pwy sy’n gyrru? Ti neu fi?” |
Allanol – y person a’i dad |