Diolch, Cymru

Rhifyn 43 - Ysbrydoli
Diolch, Cymru
27 Chwefror 2017

Annwyl Gweiddi,

Roedd gwylio gemau’r Ewros y llynedd yn bleser! Ces i – a miloedd o bobl eraill – fy ysbrydoli gan y cefnogwyr a’r tîm.

Doedd dim sôn yn y cyfryngau am gefnogwyr Cymru yn ymladd ac yn creu helynt ond roedd y papurau a’r newyddion ar y teledu yn dangos miloedd o gefnogwyr yn eu gwisgoedd coch yn canu, yn gweiddi’n hapus, yn mwynhau’r gemau ond yn ymddwyn yn wych yr un pryd. Roedden nhw’n esiampl i bawb - dyna pam rhoddodd UEFA wobr iddyn nhw i ganmol eu balchder, eu cariad at y gêm a’u parch tuag at gefnogwyr eraill.

A’r tîm – beth alla i ddweud? Roedden nhw’n anhygoel! Dw i mor falch eu bod nhw wedi cadw at eu harwyddair “Gyda’n gilydd yn gryfach”. Roedd hi’n amlwg bod aelodau’r tîm yn deall ei gilydd a’u bod yn gweithio gyda’i gilydd. Yn ogystal, roedden nhw’n dangos parch tuag at eu cefnogwyr, yn enwedig pan wisgon nhw grysau gyda’r geiriau DIOLCH arnyn nhw.

Ysbrydolodd y tîm Gymru gyfan. Roedd pobl sydd ddim fel arfer yn mwynhau pêl-droed wrth eu bodd yn gwylio’r gemau ac roedd Cymry o Fôn i Fynwy yn teimlo mor falch. Dyna pam daeth miloedd o bobl allan i groesawu’r tîm ar ôl iddyn nhw ddychwelyd o Ffrainc. Dyna pam daeth miloedd i gyngerdd mawr gyda’r Manic Street Preachers yng Nghaerdydd. Roedden nhw eisiau dweud, “Diolch yn fawr!”.

Nawr, bron blwyddyn ar ôl y digwyddiad, dw i’n dal yn falch. Mae’r cefnogwyr a’r tîm wedi rhoi darlun positif o Gymru ar draws y byd ac mae hyn yn parhau. Mae pobl wedi dod i ddysgu bod yr iaith Gymraeg yn fyw ac yn iach a’n bod ni’n genedl ffantastig. Dw i’n falch o fod yn Gymro!

Diolch!

Alex

Alex

01

02

03

llun gan Jeremy Segrott / CC GAN

llun gan Jeremy Segrott / CC GAN

llun gan Jeremy Segrott / CC GAN

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
helynt trafferth, trwbl trouble
ymddwyn bihafio (to) behave
arwyddair slogan, ymadrodd sy'n crynhoi syniad pwysig motto
o Fôn i Fynwy ar draws Cymru all over Wales
yn dal yn yn parhau still