Dyma sgript Cyflwyniad Llafar sy’n cyfleu pa mor bwerus yw’r gymuned ar y we.
*
Llwyfan gwag gydag ambell gadair yma ac acw. Daw Ceri i mewn gan eistedd ar gadair ac agor gliniadur ar ei glin. Mae hi’n teipio yna’n codi ei phen i siarad â’r gynulleidfa. |
|
CERI: | Mae Ceri ar-lein. Mae gan Ceri 867 ffrind. |
Mae hi'n rhoi ei phen i lawr ac yn teipio eto. Yna mae'n codi ei phen ac yn dweud: | |
CERI: | Mae Ceri bellach yn ffrindiau gyda Kate. |
Daw Kate i mewn ac eistedd ar gadair arall. Mae ganddi iPad/Tabled electronic o ryw fath | |
KATE: | Mae gan Kate 1,065 o ffrindiau. |
K a C: | Mae gan Ceri a Kate 23 ffrind yn gyffredin. |
Mae'r ddwy yn parhau i chwarae gyda'u teclynnau. Mae Jiao yn dod i mewn, yn chwarae ar ei ffôn. |
|
JIAO: | Mae Jiao ar-lein. Mae Jiao yn un o “ffrindiau cyffredin” Ceri a Kate. |
KATE: | Mae Kate… |
CERI: | …a Ceri… |
JIAO: | …wedi eu tagio yn un o luniau Jiao. |
Mae Abel yn dod mewn. (Llun doniol ar daflunydd ar gefn y llwyfan o Ceri, Kate a Jiao.) |
|
ABEL: | Mae Abel yn hoffi’r llun. Mae Abel yn un o ffrindiau Jiao. |
CERI: | Mae Ceri yn hoffi’r llun. |
KATE: | Mae Kate yn hoffi’r llun. |
ABEL: | Mae gan Abel a Jiao un ffrind yn gyffredin. |
Daw EshAn i mewn. | |
ESHAN: | Mae EshAn yn ffrindiau gydag Abel a Jiao. Mae EshAn yn hoffi'r llun. |
CERI: | Mae Ceri bellach yn ffrindiau gydag EshAn ac Abel. |
Daw Kim i mewn. | |
KIM: | Mae Kim yn un o 867 ffrind Ceri. Mae Kim yn codi arian tuag at Fasnach Deg ac mae ganddi dudalen Just Giving ar y we er mwyn casglu nawdd. |
CERI: | Mae Ceri yn ei noddi ac yn ail-bostio cyfeiriad ei thudalen. |
JIAO: | Mae Jiao… |
KATE: | …a Kate yn noddi Kim ar ei thudalen Just Giving. |
JIAO: | Mae Jiao yn ail-bostio cyfeiriad y dudalen. |
ABEL: | Mae Abel yn noddi Kim. |
ESHAN: | Mae EshAn yn noddi Kim ac yn ail-bostio cyfeiriad ei thudalen. |
KIM: | Mae 129 o 860 ffrind EshAn yn noddi Kim. Mae 543 person yn noddi Kim ar ei thudalen Just Giving. Nid yw Kim wedi cyfarfod â 432 ohonynt. Daw peth o’r arian mae Kim yn ei gasglu tuag at Fasnach Deg o… |
CERI: | Gymru. |
KATE: | Lloegr. |
JIAO: | China. |
ABEL: | Portiwgal. |
ESHAN: | Iran. |
KIM: | A Chanada. |
.