Paratoi ... paratoi ... paratoi

Rhifyn 49 - Y Nadolig
Paratoi ... paratoi ... paratoi
14 Gorffennaf 2017

Annwyl Gweiddi,

Wel, dw i’n barod!

Dw i wedi prynu’r anrheg Nadolig olaf ac mae gen i ddigon o bapur lapio i orchuddio’r holl rai eraill dw i wedi eu prynu. Dw i wedi ysgrifennu’r cardiau (prynais i nhw yn y sêls ym mis Ionawr) a nawr dim ond pum mis sydd i fynd tan y Diwrnod Mawr.

Penderfynais i ddechrau’n gynnar eleni ar ôl gweld rhaglen ar y teledu oedd yn sôn am sut mae cwmnïau a busnesau’n gorfod paratoi fisoedd o flaen llaw. Mae rhai cwmnïau’n dechrau meddwl am gynnyrch y Nadolig ac yn trio dychmygu beth fydd yn boblogaidd ac felly’n gwerthu’n dda dros y Nadolig, 18-24 mis o flaen llaw. Felly, mae rhai cwmnïau mawr yn gwybod yn barod beth fydd yn eu siopau nhw ar gyfer Nadolig 2018!

Yn ogystal, mae cwmnïau’n gorfod meddwl am sut maen nhw’n mynd i farchnata’u cynnyrch a denu pobl i mewn i brynu. Meddyliwch am rai o’r hysbysebion Nadoligaidd hyfryd yna ar y teledu bob blwyddyn – mae pobl yn aros yn eiddgar yn ystod mis Hydref a dechrau Tachwedd i weld sut bydd rhai cwmnïau’n hysbysebu. Rhaid bod y cwmnïau wedi bod yn trafod ac yn cynllunio fisoedd cyn i’r hysbysebion ymddangos ar y teledu.

Mae Dad hyd yn oed wedi dechrau paratoi. Mae e’n gweithio mewn canolfan hamdden ac mae e wedi bwcio parti Nadolig y staff yn barod oherwydd bod y tŷ bwyta lle maen nhw’n mynd yn boblogaidd iawn - yn enwedig dros y Nadolig. Y cyntaf i’r felin gaiff falu, ynte!

Wel, i gloi, ga i fod y cyntaf i ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi!

Dyna ni, dw i’n mynd i dorheulo ar y traeth nawr.

Nadolig Llawen!

Jo Jones

23 Rhagfyr 2017

Annwyl Gweiddi,

Mae Mam yn rhuthro o gwmpas y lle … yn glanhau … lapio … tynnu cacennau bach o’r ffwrn … rhoi mins peis i mewn i’r ffwrn … gorffen addurno’r goeden … tynnu’r mins peis o’r ffwrn … rhoi cacen sbwng i mewn i’r ffwrn … brwsio stepen y drws … golchi ffenestri … tynnu’r gacen sbwng o’r ffwrn … rhoi sosejis i mewn i’r ffwrn … Bobl bach!

Wel, dw i’n barod beth bynnag. Dw i ddim wedi prynu anrhegion, dw i ddim wedi rhoi cardiau a dw i ddim yn bwriadu mynd allan i siopa y prynhawn yma chwaith. I beth mae angen yr holl ruthro o gwmpas? Nid dyna beth ydy’r Nadolig, does posib. Na, bydda i’n anfon cerdyn Nadolig electronig y prynhawn yma ac yna, dyna ni!

O, cyn i fi anghofio, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i holl ddarllenwyr Gweiddi. Dyna ni - jobyn bach arall wedi ei wneud!

Alex Smith