Llifogydd! Help!

Rhifyn 5 - Y Tywydd
Llifogydd! Help!

Mae rhai ardaloedd yng Nghymru wedi dioddef yn enbyd oherwydd llifogydd dros y blynyddoedd diwethaf. Nid oes modd atal llifogydd yn llwyr, ond gallwn baratoi ar eu cyfer. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi gwybodaeth a fydd o gymorth cyn llifogydd, yn ystod llifogydd, ac wedi i'r dŵr gilio.

Mae'n bwysig eich bod yn gwybod mai eich cyfrifoldeb chi yw amddiffyn eich eiddo, nid yr Awdurdod Lleol.

e3_llun1.jpg

Dyma rai o'r pethau y dylech eu gwneud: 

  • Gwrando ar eich gorsaf radio leol i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â'r llifogydd.
  • Paratoi bagiau tywod i rwystro'r dŵr rhag dod trwy ddrysau.
  • Cymryd yn ganiataol bod dŵr llifogydd yn cynnwys carthion.
  • Gwisgo menig plastig / rwber pan fyddwch yn trin eitemau sydd wedi bod yn y dŵr.
  • Paratoi pecyn arbennig ar gyfer llifogydd, yn cynnwys fflachlamp, blancedi, dillad cynnes sy'n dal dŵr, welingtons, radio a batris, pecyn cymorth cyntaf, menig rwber, bwyd, bwyd anifeiliaid anwes, a meddyginiaeth.
  • Cadw'r pecyn ar y llawr uchaf os yn briodol.
  • Diffodd y cyflenwad nwy, dŵr a thrydan ar unwaith.
  • Symud eich anifeiliaid anwes i le diogel.
  • Os yw cyflwr y ffyrdd yn addas a diogel, symud eich cerbydau i ardal lle na fydd llifogydd.
  • Os yw'n angenrheidiol eich symud o'r tŷ, cysylltu â'r Heddlu neu ffonio 999.
  • Os ydych yn symud, rhoi gwybod i'r Gwasanaethau Brys i ble'r ydych wedi mynd.
  • Os ydych wedi eich caethiwo yn y tŷ oherwydd y llifogydd, sefyll yn y ffenest a cheisio tynnu sylw rhywun.
  • Osgoi dŵr sy'n llifo. Gall chwe modfedd o ddŵr fwrw oedolyn i'r llawr. 

Dyma rai o'r pethau na ddylech eu gwneud:

  • Caniatáu i blant chwarae yn y llifogydd.
  • Taflu sbwriel i ffosydd ac afonydd, a pheidiwch â'i adael ar y dorlan - gall hynny waethygu'r sefyllfa'n arw.
  • Defnyddio offer trydanol sydd wedi gwlychu nes bo trydanwr wedi bwrw golwg drostynt.
  • Defnyddio bwyd sydd wedi cael ei halogi gan ddŵr llifogydd.
  • Defnyddio dŵr sydd wedi cael ei halogi yn ystod y llifogydd i olchi llestri, glanhau'ch dannedd, golchi a pharatoi bwyd a gwneud rhew na'i yfed.
  • Taflu nwyddau sydd wedi cael eu difrodi nes i'ch cwmni yswiriant eu harchwilio.

e3_llun2_2.jpg

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
llifogydd dŵr yn gorlifo flood
carthion dŵr gwastraff o doiledau ac ati sewage
caethiwo dal to confine
y dorlan y darn o dir sy'n mynd i lawr at ochr afon riverbank