Mae gofalu am yr amgylchedd yn rhywbeth pwysig iawn i bob un ohonon ni. Darllenwch y ddau ddarn canlynol sy’n sôn am y ffordd y gall yr amgylchedd, a’r môr yn enwedig, gael ei effeithio gan ddyn.
Noson y 15fed o Chwefror 1996 oedd un o’r tywyllaf yn hanes arfordirol Sir Benfro pan aeth y tancer olew, yr MV Sea Empress, i drafferthion wrth geg harbwr Aberdaugleddau, gan achosi i’w llwyth olew lifo i’r môr. Ar y pryd, dyma’r trydydd llif olew gwaethaf yn hanes Prydain, a chafodd y llygredd effaith trychinebus ar arfordir Sir Benfro am flynyddoedd lawer wedyn. Lladdwyd llawer o fywyd gwyllt, yn cynnwys adar, pysgod a phlanhigion.
Roedd yr MV Sea Empress ar ei ffordd tua moryd y Cleddau a phurfa olew Texaco yn Aberdaugleddau â’i llwyth o olew pan ddigwyddodd y ddamwain. Ychydig wedi wyth o’r gloch y nos, a hithau’n hwylio yn erbyn y llanw, cafodd y tancer ei gwthio oddi ar ei llwybr i ganol sianel yr afon, lle trawodd yn erbyn creigiau, gan hollti ei hochr. Llifodd 73,000 tunnell o’i 130,000 tunnell o olew i'r môr gan achosi difrod difrifol mewn ardal oedd yn rhan o Barc Cenedlaethol Sir Benfro.
Cafodd 210 cilomedr o’r arfordir ei orchuddio ag olew crai yn dilyn trychineb yr MV Sea Empress, a chostiodd y gwaith glanhau tua £60 miliwn.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
llygredd | sbwriel neu wenwyn yn yr amgylchedd | pollution |
tarddle | lle mae rhywbeth yn dechrau | source |
heigiau | grwpiau o bysgod | shoals |
dyfroedd | y gair lluosog am ddŵr | waters |
gweigion | y gair lluosog am wag | empty |
ynghudd | rhywbeth sydd wedi ei guddio | hidden |
y genlli | gair arall am y môr | sea |
gorfoleddu | dathlu; bod yn hapus | (to) rejoice |
trychinebus | rhywbeth ofnadwy iawn | disastrous |
moryd | lle mae'r afon yn mynd i'r môr | estuary |