A ddylai mwy o ddigwyddiadau chwaraeon ddod i Gymru?

Dydy hi ddim yn gyfrinach fod chwaraeon yn fusnes mawr. Mae arian yn gallu llifo i mewn i ardal neu ddinas sy’n cynnal rhai o brif ddigwyddiadau’r byd chwaraeon. 

Mae cynnal digwyddiad chwaraeon mawr yn gallu newid y dirwedd.

Pan ddaeth Cwpan Rygbi’r Byd i Gaerdydd yn 1999, codwyd Stadiwm y Mileniwm yng nghanol y ddinas i gymryd lle’r hen Barc yr Arfau.

Llun: Cardiff Arms Park at night - geograph.org.uk - 495595Nicholas Mutton © Wikimedia Commons o dan drwydded Creative Commons Attribution-Share Alike 2.0 Generic

Pan ddaeth Cwpan Ryder i’r Celtic Manor ger Casnewydd yn 2010, roedd y cwrs golf yno wedi’i gynllunio a’i adeiladu’n arbennig ar gyfer yr achlysur.

 

Ond beth am y dyfodol?

Yn eu haddewidion ar gyfer Etholiad y Cynulliad yn 2016, roedd Plaid Cymru a’r Blaid Lafur yn frwd i gefnogi’r syniad o ddenu Gemau’r Gymanwlad i Gymru naill ai yn 2026 neu 2030. Dyma beth oedd gan Brif Weinidog Cymru i’w ddweud am y syniad ar raglen newyddion Radio Cymru heddiw:

   
Y Prif Weinidog: Byddai denu digwyddiad chwaraeon o raddfa Gemau’r Gymanwlad yn hwb aruthrol i Gymru. Gyda thîm Cymru’n cystadlu hefyd, byddai’r Gemau’n sbardun i undod cenedlaethol, ac yn rhoi cyfle i bobl y wlad arddangos eu balchder a’u cefnogaeth i’w gwlad, fel sy’n digwydd yn achos y Gemau Olympaidd a Chwpan y Byd. Er nad yw Gemau’r Gymanwlad yn cynnwys cymaint o wledydd â’r Gemau Olympaidd, byddai denu’r fath ddigwyddiad i Gymru’n bendant yn hwb anferth i’r economi. Byddai angen lleoliadau ar gyfer athletau, pêl-droed, rygbi, hoci, nofio, beicio, saethu a phob math o gampau eraill, felly gallai sawl rhan o’r wlad elwa - nid dim ond dinas fel Caerdydd.
Sylwebydd: A fyddai manteision penodol eraill?
Y Prif Weinidog: Wrth gwrs, mae’r potensial yn enfawr. Yn gyntaf, fe fyddai proffil Cymru ar lwyfan y byd yn cynyddu, a phwy a ŵyr faint yw gwerth hynny yn y tymor hir. Hefyd, byddai’n rhoi hwb i’r economi, gyda galw am weithwyr i ddatblygu lleoliadau a mwy o arian oddi wrth ymwelwyr a chefnogwyr sy’n dod i’r Gemau. Byddai gwneud yn siŵr bod mwy o gyfle ar gyfer hyfforddiant a phrentisiaethau hefyd yn nod.
Sylwebydd: Beth am fanteision i weddill y wlad?
Y Prif Weinidog: Wel, yn naturiol, byddai’n rhaid i unrhyw gynlluniau o ran gwella adeiledd Cymru fod wedi eu cwblhau erbyn dechrau’r Gemau, yn cynnwys gwella ffyrdd, rheilffyrdd a chysylltiadau eraill. Byddai mwy o frys, felly, i orffen y fath gynlluniau, a byddai hynny er lles  pawb.
Sylwebydd: A fyddai unrhyw fanteision tymor hir?
Y Prif Weinidog: Er nad oes digon o dystiolaeth eto fod Gemau Olympaidd Llundain 2012 na Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014 wedi rhoi hwb mawr i iechyd a ffitrwydd, y gobaith yw y bydd canlyniadau’n dangos hynny yn y pen draw. Gallai’r un math o hwb, felly, ddigwydd i iechyd a ffitrwydd pobl yng Nghymru.
Sylwebydd: Felly, beth fydd angen penderfynu cyn i Lywodraeth Cymru ddweud os yw’n mynd i  wneud cais i gynnal Gemau’r Gymanwlad neu beidio?
Y Prif Weinidog: Wel, cwestiwn anodd. Bydd angen tipyn o drafod a phenderfynu ynglŷn â beth allai cost cynnal y Gemau fod ac a fydd Cymru, mewn gwirionedd, yn gallu fforddio cynnal y Gemau. Wedi’r cwbl, dydyn ni ddim eisiau i wasanaethau eraill ddioddef. Ac mae materion eraill sydd angen eu trafod hefyd. Oes digon o leoliadau yng Nghymru i gynnal yr holl gystadlaethau? A fydd hi’n bosib i bobl deithio’n rhwydd rhwng y gwahanol leoliadau? Oes digon o lety yng Nghymru ar gyfer yr holl athletwyr a’r cefnogwyr? Pa mor debygol yw hi y bydd Cymru’n llwyddo gyda’i chais? Unwaith y bydd gyda ni atebion i’r cwestiynau hyn i gyd, wedyn gallwn ni symud ymlaen, gobeithio!
Sylwebydd:

Brif Weinidog, diolch o galon i chi am eich amser, a phob hwyl gyda’r trafodaethau.

https://www.insidethegames.biz/media/file/46070/161011atisn10616doc1.pdf

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
undod bod fel un unity
Cymanwlad y gwledydd ar draws y byd oedd yn arfer cael eu rheoli gan Brydain Commonwealth
economi system arian gwlad economy
elwa ennill rhywbeth, yn enwedig arian neu brofiad benefit
prentisiaethau cyfle i rywun ddysgu crefft neu ffordd o weithio apprenticeships
adeiledd trefn ffyrdd, rheilffyrdd, teithio a gwasanaethau infrastructure