Fideo: https://www.youtube.com/watch?v=fVsONlc3OUY

Beth sy’n achosi Goleuni’r Gogledd?

Er mwyn deall beth sy’n achosi Goleuni’r Gogledd, mae angen deall beth sy’n digwydd yn yr haul, a hefyd deall am faes magnetig y Ddaear.

Yr haul

Pelen o hydrogen a nwyon eraill yw’r haul. Mae tua 93 miliwn o filltiroedd, neu 150 miliwn o gilometrau, o’r Ddaear.

Yn yr haul, mae atomau hydrogen yn bwrw yn erbyn ei gilydd ac yn creu ymasiad niwclear. Weithiau, mae gronynnau wedi’u gwefru yn saethu allan o’r haul ac yn creu fflach solar. Wedyn, mae’r gronynnau’n teithio drwy’r gofod am ddau ddiwrnod, tua 93 miliwn o filltiroedd, nes cyrraedd y Ddaear.

Maes magnetig y Ddaear

Mae maes magnetig yn amddiffyn y Ddaear, ond mae’n llai cryf ym mhegwn y gogledd a phegwn y de. Felly, mae rhai o’r electronau sy’n dod o’r haul yn llwyddo i gyrraedd atmosffer y Ddaear. Wrth wneud hyn, maen nhw’n gwrthdaro â’r atomau ocsigen a nitrogen sydd yn atmosffer y Ddaear. Mae’r atomau hyn yn cynhyrfu, ac maen nhw’n rhyddhau ynni ar ffurf goleuni.

Sut mae’r Goleuni’n edrych?

Mae’r Goleuni’n edrych fel llenni neu donnau, oherwydd eu bod nhw’n dilyn y llinellau grym ym maes magnetig y Ddaear.

Pam mae lliwiau gwahanol i Oleuni’r Gogledd?

Nwyon gwahanol sy’n rhoi’r lliwiau gwahanol.

  • Ocsigen – mae’n rhoi golau gwyrdd, y lliw mwyaf cyffredin;
  • Nitrogen – mae’n rhoi golau glas, coch neu borffor.

Ble mae’r lleoedd gorau i weld Goleuni’r Gogledd?

  • Alaska neu ogledd Canada;
  • Gwledydd Llychlyn;
  • Gogledd yr Alban, weithiau i lawr i ogledd Lloegr. Maen nhw’n cael eu gweld yng ngogledd a chanolbarth Cymru os yw’r amodau’n iawn.
  • Mae’n bosibl gweld Goleuni’r Gogledd yr holl ffordd i lawr i’r cyhydedd, ond mae hynny’n eithaf anarferol.
  • Rhaid mynd ymhell o ddinasoedd neu drefi mawr, neu bydd llygredd golau’n broblem. Felly, mannau anghysbell sydd orau.

Pryd mae Goleuni’r Gogledd ar ei orau?

  • Yn ystod y gaeaf, hefyd misoedd Medi, Hydref, Mawrth ac Ebrill;
  • Mae mwy o olau ddau ddiwrnod ar ôl fflachiau solar mawr.

Pa amodau tywydd sydd orau?

  • Mae angen noson glir, ddigwmwl.
  • Os yw’r lleuad yn llawn, mae’n fwy anodd gweld y goleuni.

Beth am Oleuni’r De?

Mae goleuni tebyg i’w gweld yn yr Antarctig – Aurora Australis yw’r enw arno.

Chwedloniaeth am Oleuni'r Gogledd

Roedd yr Inuit yn meddwl mai ysbryd eu hynafiaid yn dawnsio, neu fabanod oedd wedi marw, oedd Goleuni’r Gogledd.

Roedd y Llychlynwyr yn credu mai pont o dân i’r nefoedd wedi’i chreu gan y duwiau oedd y goleuni.

Mae stori o’r Ffindir yn dweud mai cynffon llwynog yr Arctig wrth fwrw eira oddi ar y mynyddoedd sy’n creu’r Goleuni.

Roedd yr Albanwyr yn meddwl mai dawnswyr, neu ryfelwyr yn ymladd, neu angylion yn syrthio i’r Ddaear oedd y Goleuni.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
ymasiad niwclear pan fydd niwclysau atomig yn dod at ei gilydd i ffurfio niwclews trymach, a rhyddhau ynni nuclear fusion
groynyn(nau) darn bach, bach o rywbeth particle(s)
gwefru rhoi trydan i rywbeth (to) charge
fflach solar goleuni disglair sy'n dod o'r haul solar flare
gwledydd Llychlyn Norwy, Sweden a'r Ffindir Scandinavian countries
anghysbell pell i ffwrdd, o'r neilltu remote
amodau tywydd sut mae'r tywydd weather conditions
hynafiad (hynafiaid) un o'r hen bobl ancestor(s)