Clociau Cymru

Rhifyn 6 - Amser
Clociau Cymru

Heddiw, dydyn ni ddim yn meddwl am Gymru fel gwlad sy'n enwog am glociau, ond roedd diwydiant gwneud clociau bywiog iawn yn arfer bod yma...

Tystiolaeth gynnar

Mae'r bardd Dafydd ap Gwilym (tua 1320-70) yn sôn am gloc wal swnllyd yn ei ddeffro mewn cywydd a ysgrifennodd dros 600 mlynedd yn ôl:

Och i'r cloc yn ochr y clawdd,

Du ei ffriw, a'm deffroawdd . . .                               (ffriw = wyneb; deffroawdd = deffrodd)

A'i ddwy raff iddo, a'i rod                                        (rhod = olwyn)

A'i bwysau, pelennau pwl                                       (pwl = trwm)

A'i fuarthau, a'i forthwl . . .

Dafydd ap Gwilym, yn y cywydd hwn, oedd un o'r cyntaf i ddisgrifio cloc ym Mhrydain. h1_1.jpg

Cloc yr eglwys

Roedd clociau i'w cael ar eglwysi cadeiriol ac eglwysi yng Nghymru, e.e:

• Tyddewi - cyn 1490

• Meifod - hanner cyntaf y 16eg ganrif

• Eglwys y Santes Fair, Abertawe - cyn 1558

• Eglwys y Santes Fair, Dinbych-y-pysgod - cyn 1650

• Eglwys San Giles, Wrecsam - cyn 1662

• Eglwys San Ioan, Caerdydd - cyn 1711

Llun: Y cloc ar dwr Eglwys Tyddewi, Nigel's Europe

Cloc y dref

Dyma rai o glociau tref cynnar Cymru:

• Dinbych - 1605

• Caerllion - 1608

• Neuadd y Sir, Trefynwy - 1619

• Neuadd y Dref, Caerdydd - cyn 1708

• Neuadd y Dref, Llanrwst - 1761

• Neuadd y Dref, Aberystwyth - tua 1770

Llun: Cloc y dref, Rhaeadr, casgliad P B Abery yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. h1_2.jpg

Clociau mewn cartrefi

Does dim sôn bod clociau mewn cartrefi cyn y 1600au. Erbyn tua 1700, roedd gan fwy o bobl glociau ac roedden nhw'n cael eu gadael mewn ewyllysiau.

Tyfodd nifer y gwneuthurwyr clociau hefyd. Ym 1700, roedd gwneuthurwyr clociau mewn wyth ardal yng Nghymru; erbyn 1750 roedd 72 o wneuthurwyr ac ym 1800 roedd y nifer wedi codi i 200. Felly, erbyn hynny, roedd rhywun yn gwneud clociau ym mhob tref, fwy neu lai.

Clociau cynnar

Wyneb pres oedd gan y clociau cynnar, ac roedd y cas o dderw. Fel arfer roedd angen weindio'r cloc bob 30 awr ('clociau un dydd un nos' oedden nhw), ond roedd clociau drutach gan y boneddigion a oedd yn gallu mynd am 8 niwrnod neu fis, hyd yn oed.

Llun ar frig y dudalen: Cloc wyneb pres o Gaerdydd gan hummingcrow

Clociau diweddarach

Erbyn 1850, doedd dim llawer o glociau'n cael eu gwneud yng Nghymru. Roedd gwneuthurwyr Cymru'n prynu clociau o Birmingham neu Swydd Gaerhirfryn ac yn peintio eu henw a'u tref ar y deial. Ar ôl i ffatrïoedd ddechrau gwneud clociau, daeth y traddodiad 

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
tueddu i bod yn debyg o wneud rhywbeth to tend to
ewyllys(iau) math o lythyr sy’n dweud beth mae person eisiau i ddigwydd i’w arian a’i eiddo ar ôl iddo/iddi farw will(s)
gwneuthurwyr clociau pobl sy’n gwneud clociau clockmakers
pres metel melyn, cymysgedd o gopr a sinc brass
derw pren derwen oak
boneddigion pobl y dosbarth uwch nobility