Pan fyddwch chi’n meddwl am Fethlehem adeg geni’r Iesu, pa fath o ddarlun sydd yn eich meddwl chi?

Dinas dawel gyda phawb yn cysgu’n sownd?

Noson dywyll, gydag un seren lachar yn disgleirio yn yr awyr?

Mair a Joseff yn dod i’r ddinas ar gefn asyn ac yn gweld goleuni’r adeiladau’n disgleirio yn y tywyllwch?

Rhywbeth fel hyn efallai …?

Ond mae Bethlehem heddiw yn wahanol iawn i’r darlun yna. Edrychwch ar y lluniau hyn. Beth maen nhw’n cyfleu?

Mae un gân Nadolig yn dangos bod gwahaniaeth mawr rhwng Bethlehem adeg geni’r Iesu a Bethlehem heddiw.*

 

Ewch i: http://www.brigyn.com/english/lyrics-haleliwia.html

i ddarllen y gerdd. Mae rhai geiriau yn yr eirfa ar waelod y sgrin i’ch helpu chi.

 

Gwrandewch ar y gân yn cael ei chanu yma.

Fideo: https://www.youtube.com/watch?v=E0qzBIns9DM

Yna, ewch i’r adran Tasgau.

*Mae'r gân yn sôn am Balesteina. Mae Palesteina wedi'i lliwio'n binc ar y map.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
dwrn llaw wedi ei chau'n dynn fist
dur metel wedi ei wneud o haearn a charbon steel
pyrth lluosog porth; mynedfeydd gateways
gwyrth digwyddiad anhygoel, goruwchnaturiol wedi ei drefnu gan Dduw miracle
o gylch o gwmpas around
craith marc ar y croen ar ôl anaf scar
chwalu torri'n deilchion (to) shatter
hoel ôl trace