Helo o Lan-llyn

Rhifyn 7 - Lliwiau
Helo o Lan-llyn

Sul, 31 Gorffennaf 2011 20:31:07

Haia Rhys! Gobeithio dy fod ti'n well. Mae'n biti dwyt ti ddim yma efo ni. Mi fasat ti wrth dy fodd efo'r genod o'r Sowth. Dan ni wedi gneud ffrindia efo tair o Abertawe - Siwan, Jasmine a Nia. Ma nhw'n siarad yn wahanol i ni ac yn deud petha fel 'Sai moyn' ond dan ni'n dallt nhw'n ddigon da i ddod ymlaen efo'n gilydd! ;-) ;-) Jasmine ma Iwan yn ffansio a dw inna'n licio Nia! Ma 'na bump diwrnod eto so gobeithio'r gora...

Anfonwyd o fy iPhone

 

Llun, 1 Awst 2011 17:45:14

Iawn? Nathon ni gal andros o hwyl ar y llyn (Llyn Tegid) heddiw. Nathon ni glymu chwech canŵ yn sownd wrth ei gilydd a chwarae gêm o neidio o ganŵ i ganŵ heb syrthio i'r llyn. A pwy nath syrthio i'r llyn? Ia, fi! Ron i'n socian!

Anfonwyd o fy iPhone

 

Mawrth, 2 Awst 2011 12:45:00

Ma gyda'r nos yn hwyl yma - nofio yn y pwll, gêm 5 bob ochr ac yna dawnsio gwerin neithiwr. Ma pawb yn joinio a chael hwyl! Ond go brin y basat ti'n gallu ei wneud efo dy goes mewn plastar!

Anfonwyd o fy iPhone

 

Mercher, 4 Awst 2011 02:03:23

Newydd gael row gan un o'r Swogs! Cael ein dal yn crwydro'r coridor yn chwarae ysbrydion! Nathon nhw ddeud y basan nhw'n ein gyrru ni adra os basan ni'n gneud hyn'na eto! Wps!

Anfonwyd o fy iPhone 

 

Iau, 5 Awst 2011 14:57:35

S'mai mêt? Sut mae dy goes di heddiw? Mynd i rafftio dŵr gwyn p'nawn 'ma. Fedra i ddim disgwyl!

Anfonwyd o fy iPhone

 

Iau, 5 Awst 2011 14:57:35

Dw i ddim yn siwr ydw i isio rafftio dŵr gwyn eto achos mi nath o godi dychryn arna i! Roedd 12 yn y rafft ac roedden ni'n cael ein hyrddio (gair y 'swogs' - swyddogion y gwersyll - am 'taflu') i lawr yr afon. Doedd gynnon ni ddim rheolaeth dros y rafft o gwbwl! Paid â deud wrth mam neu mi fasa hi'n cal ffit!

Anfonwyd o fy iPhone

 

Gwener, 6 Awst 2011 16:16:28

Noson ola heno - disgo! Gobeithio fydda i wedi cael lwc efo Nia o Abertawe erbyn diwedd y noson! Gei di'r hanes i gyd fory...

Anfonwyd o fy iPhone

Gwersylloedd yr Urdd

c3_1.jpgMae gan Urdd Gobaith Cymru ddau wersyll - Glan-llyn yn y gogledd a Llangrannog yn y de. Llangrannog oedd y cyntaf i agor yn ôl yn 1932.

Roedd gwersyll Llangrannog mor boblogaidd, yn 1950 penderfynodd yr Urdd sefydlu Gwersyll arall ar gyfer plant hŷn yr Urdd -Glan-llyn.

Heddiw, bydd plant o bob rhan o Gymru yn mynd i Lan-llyn i fanteisio ar y lleoliad delfrydol ar lan Llyn Tegid ym mynyddoedd Eryri. Gall hyd at 230 gysgu yno ac mae'r gweithgareddau cyffrous yn cynnwys dringo, canŵio, rafftio dŵr gwyn, bowlio deg, cwrs rhaffau uchel a mynydda.