Gemau Olympaidd Llundain

Rhifyn 8 - Chwaraeon
Gemau Olympaidd Llundain

Y Diwedd

Daeth y Gemau Olympaidd i ben ddoe - ar ôl cyfnod o 187 o ddyddiau. Chwi gofiwch, efallai, iddynt ddechrau yn gynharach eleni ar 27 Ebrill, 1908. Yr oeddent yn Gemau llwyddiannus iawn, yn fy marn i, yn enwedig o gofio'r cyfnod byr a gafodd Llundain i baratoi ar eu cyfer. Yr Eidal, wrth gwrs, oedd i fod i gynnal y Gemau hyn yn Rhufain ond gan fod Mynydd Vesuvius wedi ffrwydro ddwy flynedd yn ôl, yr oedd angen yr arian ar gyfer ailadeiladu dinas Naples yn hytrach na chynnal y Gemau Olympaidd.

Daeth dros ddwy fil o gystadleuwyr ynghyd i gystadlu am y medalau. Cyflwynwyd medalau aur, arian ac efydd i'r enillwyr - mor wahanol i'r paentiadau a gyflwynwyd wyth mlynedd yn ôl ym 1900! Yr oedd diwrnod cyflwyno'r holl fedalau i'r enillwyr yn ddiwrnod i'w gofio!

h2_4.jpg

Yr oedd yn braf gweld merched yn cystadlu eleni hefyd - 37 ohonynt. Yn y Gemau Olympaidd gwreiddiol, yng Ngroeg, dynion yn unig oedd yn cystadlu. Yn wir, dyna oedd y rheol tan 1900, pryd y daeth 22 merch i gymryd rhan yng Ngemau Olympaidd Paris. Braf yw gweld bod y nifer hwn wedi cynyddu erbyn eleni a gobeithio y bydd yn cynyddu eto erbyn y Gemau nesaf.

Seremoni agoriadol h2_5.jpg

Eleni, am y tro cyntaf, yr oedd seremoni arbennig ar gyfer agor y Gemau a braf oedd gweld hyn. Gorymdeithiodd yr athletwyr o gwmpas y stadiwm y tu ôl i faner eu gwlad. Dyma'r tro cyntaf i'r chwaraewyr gystadlu fel timau cenedlaethol yn hytrach nag fel unigolion.

Cystadleuaeth gofiadwy

Er bod y cystadlu wedi gorffen erbyn hyn, mae ambell gystadleuaeth yn aros yn y cof. Pwy all anghofio'r marathon, er enghraifft?  Am y tro cyntaf, yr oedd yn rhaid rhedeg am 26.2 milltir a phrofodd hyn - yn ogystal â'r tywydd poeth ar ddiwrnod y ras - yn ormod i Tom Longboat o Ganada, y ffefryn i ennill. Syrthiodd ar ôl 19 milltir - ond efallai mai'r brif broblem oedd y siampên yr oedd ei gynorthwywyr wedi bod yn ei roi iddo ar hyd y daith, yn hytrach na'r gwres. 

Yna, edrychai fel petai Dorando Pietri o'r Eidal yn mynd i ennill, ond yr oedd yntau'n dioddef o'r gwres ac o ddysychiad. Wrth iddo redeg i mewn i'r stadiwm ar ddiwedd y ras, dechreuodd redeg y ffordd anghywir a bu'n rhaid iddo newid cyfeiriad. Yna, disgynnodd bum gwaith ar y trac a bu'n rhaid i'r swyddogion ei helpu ar ei draed. Yn y diwedd, croesodd y llinell i ennill y ras. Fodd bynnag, protestiodd tîm America, gan ddweud nad oedd yn deg ei fod yn cael ennill ac yntau wedi cael help i orffen y ras. Yn y diwedd, rhoddwyd y fedal aur i'r rhedwr a ddaeth yn ail - Johnny Hayes o America.

Syr Arthur Doyle

Un o'r bobl a welodd hyn oedd Syr Arthur Conan Doyle, yr awdur enwog a greodd y cymeriad Sherlock Holmes. Teimlai gymaint dros Dorando Pietri fel ei fod wedi dechrau cronfa i godi arian i helpu Dorando Pietri ddychwelyd i'r Eidal i agor becws.

Helpodd Syr Arthur Doyle i godi £300.00 ar ran Dorando Pietri. Yn y diwedd, aeth Dorando Pietri ymlaen i redeg yn broffesiynol a churodd Johnny Hayes ddwywaith. Ymddeolodd yn 1911 a phrynodd westy yn San Remo.

Y marathon

Yn draddodiadol, roedd y marathon yn cofio am ddigwyddiad arbennig yn hanes Groeg.

Yn y flwyddyn 490CC, roedd Athen, Groeg, yn ddinas gyfoethog ac roedd y Persiaid eisiau ei chipio. Bu brwydr fawr rhwng y Groegiaid a'r Persiaid ym Marathon, 24.8 milltir o Athen.

h2_3.jpg

Enillodd milwyr Athen y frwydr ac anfonwyd negesydd o'r enw Pheidippides yr holl ffordd yn ôl i Athen - 24.8 milltir - i ddweud bod y frwydr wedi ei hennill. Rhedodd heb stopio. Dywedodd wrth bobl Athen fod eu milwyr nhw wedi ennill y frwydr ac yna, yn sydyn, syrthiodd yn farw!

Yn y Gemau Olympaidd modern cyntaf, yn 1896, trefnwyd bod ras yn cael ei chynnal i gofio am Pheidippides. Roedd y ras yn 24.8 milltir o hyd.

Newidiwyd hyn yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 1908. Er mwyn gwneud yn siwr bod plant y teulu brenhinol yn gallu gweld dechrau'r ras yng Nghastell Windsor a bod y ras yn gorffen o flaen bocs y teulu brenhinol yn y stadiwm yn White City, trefnwyd bod tua dwy filltir yn cael eu hychwanegu at y ras. O hyn ymlaen, 26.2 milltir oedd hyd marathon.

Mwy o gystadlu

Yr oedd nifer o gystadlaethau eraill hefyd, fel tynnu rhaff, (medal aur i dîm heddlu Llundain a medal arian i dîm heddlu Lerpwl) a chwarae polo ar feiciau. Trueni nad oedd cystadleuaeth dringo rhaff eleni - fel yng Ngemau 1904. O leiaf, nid oedd cystadleuaeth saethu colomennod byw, fel yng Ngemau Olympaidd Paris yn 1900 - diolch byth! Byddwn wedi defnyddio'r papur hwn i fynegi fy atgasedd at y fath greulondeb petai'r gystadleuaeth wedi cael ei chynnal!h2_2 (1).jpg

Yr oedd yn braf gweld nofwyr yn cystadlu mewn pwll nofio go iawn am y tro cyntaf, yn hytrach nag yn y môr neu mewn afon neu lyn. Yr oedd 6 ras ar gyfer dynion - ond nid oedd un ras ar gyfer merched! Yr oedd un ras ar goll, fodd bynnag. Faint ohonoch chi sy'n cofio'r ras rwystrau yn afon Seine yn 1900? Yr oedd yn rhaid i'r nofwyr ddringo polyn, dringo dros res o gychod, yna nofio o dan res o gychod mewn ras rwystrau ddiddorol. Trueni bod hon wedi ei dileu!

 

h2_6.jpgAchos i ddathlu...

Prydain oedd y tîm mwyaf llwyddiannus eleni. Enillodd ein hathletwyr 146 o fedalau, gan gynnwys 56 o fedalau aur. Yr Unol Daleithiau ddaeth yn ail, gyda 47 o fedalau a 23 medal aur. Rhaid llongyfarch ein tîm cenedlaethol am eu gwaith ardderchog. Gyda hyfforddi rheolaidd efallai y gallwn ni gipio'r nifer mwyaf o fedalau yn y Gemau Olympaidd nesaf - a'r rhai wedyn a'r rhai wedyn.

Gobeithio'n wir!

Merched

Cafodd merched yr hawl i nofio yn y Gemau Olympaidd yn 1912.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
ailadeiladu adeiladu unwaith eto (ar ôl i’r llosgfynydd ffrwydro) to rebuild
ynghyd at ei gilydd together
paentiadau lluniau wedi eu peintio paintings
gorymdeithio cerdded mewn tîm, mewn trefn arbennig to march
cynorthwywyr pobl oedd yn ei helpu assistants
dysychiad diffyg dŵr yn y corff dehydration
becws lle i wneud ac efallai gwerthu bara bakery
atgasedd casineb hatred