I mewn … neu … allan?

Rhifyn 8 - Chwaraeon
I mewn … neu … allan?
Eirian Jones
Eirian Jones

Geni: Aberystwyth

Magu: Blaenpennal, Ceredigion

Ysgolion: Ysgol Gynradd Tanygarreg, Blaenpennal, Ysgol Uwchradd Tregaron

Ar ôl yr ysgol: Ennill gradd mewn Cymraeg a Daearyddiaeth yn y brifysgol

Byd gwaith: Athrawes mewn ysgol gynradd yn Lloegr ac yna mewn ysgol uwchradd yn ne Cymru; wedyn prifathrawes mewn ysgol gynradd yng Ngwynedd; nawr golygydd llyfrau Saesneg yng Ngheredigion.

Mae Eirian Jones yn dyfarnu mewn gemau tennis yn Wimbledon.

Oedd gennych chi ddiddordeb arbennig mewn chwaraeon pan oeddech chi yn yr ysgol?
Roeddwn i'n casáu cymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol! Yr unig opsiynau oedd chwarae gemau tîm fel hoci a phêl-rwyd. Doedd dim cyfle i wneud unrhyw fath o chwaraeon eraill ond roedd gen i ddiddordeb mewn gwylio tennis a phan es i i'r brifysgol, ces i gyfle i brofi mathau eraill o chwaraeon fel cleddyfa, rhedeg traws gwlad a chwarae tennis, wrth gwrs! Yna, dechreuais i gymryd rhan mewn chwaraeon er mwyn cadw'n heini ac, yn ystod y deng mlynedd diwethaf, dw i wedi cwblhau pedwar marathon (gan gynnwys Llundain ac Efrog Newydd), saith hanner marathon a dau driathlon. Dw i wedi dringo i gopa Kilimanjaro ac i Everest Base Camp a dw i wedi cwblhau'r ras feicio o Lundain i Brighton. Byddai fy nghyn-athrawes chwaraeon yn falch iawn ohono i!

Sut daethoch chi i gael swydd dyfarnwr yn Wimbledon?
Roeddwn i'n byw yng nghanolbarth Lloegr ar y pryd. Es i i Wimbledon un flwyddyn a gwelais i hysbyseb yn gofyn am ddyfarnwyr tennis. Felly, dyma ymuno â'r British Tennis Umpires Association (ABTO erbyn hyn) a dechrau dyfarnu mewn twrnameintiau bach mewn clybiau lleol, yna mewn rhai proffesiynol ac yna daeth yr alwad i ddyfarnu yn Wimbledon am y tro cyntaf yn 1998.

Erbyn hyn, dw i wedi dyfarnu mewn 13 Wimbledon - felly dw i wedi treulio hanner blwyddyn gyfan o'm hoes yno!

Pa fath o hyfforddiant gawsoch chi?
Bu'n rhaid mynychu sawl cwrs er mwyn dysgu rheolau tennis cyn mynd i Wimbledon, ac wedyn cael cryn dipyn o brofiad o ddyfarnu mewn twrnameintiau - dyna'r hyfforddiant gorau.

Beth yn union rydych chi'n ei wneud fel dyfarnwr yn Wimbledon?
Er fy mod i'n eistedd yng nghadair uchel y dyfarnwr mewn twrnameintiau eraill, yn Wimbledon dw i'n gweithio mewn tîm o ddeg fel dyfarnwr llinell. Mae yna ddyfarnwr yn gwylio pob llinell ac yn penderfynu a yw'r bêl i mewn neu allan ar eu llinell nhw. Dw i'n gweithio ar un cwrt bob dydd ac mewn shifftiau o awr a chwarter ar y tro.

Ydych chi wedi cyfarfod â llawer o chwaraewyr tennis enwog?
Dw i wedi bod yn ffodus tu hwnt ac wedi dyfarnu yng ngemau'r chwaraewyr tennis enwog i gyd. Un flwyddyn bues i'n lwcus i gael dyfarnu mewn tair o gemau Roger Federer yn Wimbledon.

Oes rhai chwaraewyr wedi anghytuno â'ch dyfarniad?
Wrth gwrs! Pan mae gêm yn arbennig o agos, mae'r chwaraewyr o dan bwysau enfawr i ennill pob pwynt. Maen nhw'n siomedig iawn os nad ydyn nhw'n ennill y pwynt. Mae rhai'n dadlau wedyn! Ond nawr, mae camerâu Hawk Eye yn medru helpu'r dyfarnwyr a'r chwaraewyr os oes yna anghytuno am y bêl. Ond nid yw technoleg Hawk Eye ar gael ar bob cwrt, cofiwch!

Beth fyddai'ch cyngor chi i rywun sydd eisiau cael gyrfa yn y byd chwaraeon?
Mae angen cryn dipyn o ddyfalbarhad ac amynedd i lwyddo. Mae'r ffordd tuag at lwyddiant yn un hir dros ben. Rhaid cymryd yr amserau da gyda'r amserau drwg. Eleni, bydda i'n gweithio yn Wimbledon am y tro olaf ac yn dyfarnu mewn cystadlaethau tennis yn y Gemau Olympaidd. Dw i'n edrych ymlaen yn fawr iawn at fod yn rhan o'r cyfan!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
golygydd person sy’n golygu - yn darllen drwy waith, yn ei gywiro ac ati editor
cleddyfa camp lle mae dau berson yn ymladd â chleddyfau (sword) fencing
canolbarth ardal yn y canol midlands
oes bywyd life
dan bwysau dan straen stressed, under pressure
dyfalbarhad dal ati perseverance