Gafr mewn hosan

Rhifyn 12 - Rhoddion
Gafr mewn hosan

Fydd dim gafr yn eich hosan Nadolig chi eleni ... ond bydd rhai pobl yn derbyn gafr neu eifr fel rhoddion Nadolig.

Byddan nhw'n derbyn y rhoddion hyn drwy gynllun Present Aid.

Beth ydy cynllun Present Aid? 6006403m-well.jpg

Cynllun arbennig lle rydych chi'n prynu cerdyn rhoddion i ffrind neu i aelod o'r teulu. Mae'r arian rydych chi'n ei dalu am y cerdyn yn cael ei wario ar rodd ar gyfer pobl dlawd mewn gwlad sy'n datblygu. Felly, rydych chi'n rhoi cerdyn i'ch ffrind neu i rywun yn y teulu ond mae'r cerdyn yn dangos eich bod chi wedi rhoi rhodd arbennig i rywun sydd angen eich help mewn gwlad arall.

Pa fath o rodd?

Mae llawer o wahanol fathau o roddion ac maen nhw i gyd yn helpu pobl dlawd, e.e.

  • coed ffrwythau - fel bod teuluoedd yn Nicaragua yn cael ffrwythau i'w bwyta a'u gwerthu
  • dillad ysgol, llyfrau a phapur - fel bod plant ym Mangladesh yn gallu mynd i'r ysgol
  • can dŵr - fel bod pobl Burkina Faso, Affrica, yn gallu dyfrhau eu cnydau

a hyd yn oed … 4003677m-brick-built-house.jpg

  • ffynnon  - fel bod pobl Kenyayn gallu cael dŵr yn eu pentref
  • tŷ o friciau - fel bod pobl sydd wedi colli eu cartrefi oherwydd llifogydd neu drychineb arall yn cael cartrefi newydd. 

 

Llun: ffynnon: Cymorth Cristnogol/Jodi Bieber

Llun: tŷ o friciau: Cymorth Cristnogol/Susan Barry

 

Faint mae'r rhoddion yn costio a phwy sy'n eu cael nhw?

Dyma'r manylion am rai o'r rhoddion:

 

4003582m-mosquito-nets.jpg

Beth:  Rhwydi mosgito

Pris:   £15 am dair rhwyd

I bwy: Pobl yn Affrica

Pam:  Yn Affrica, mae un plentyn yn marw o falaria bob 45 eiliad. Mosgitos sy'n cario'r clefyd yma ac felly mae angen rhoi rhwyd o gwmpas gwelyau'r plant bob nos er mwyn cadw'r mosgitos allan. Mae'r rhwydi yma'n gallu achub bywyd, felly!

Llun: Cymorth Cristnogol/Sarah Filbey

 

goats.jpg

Beth:  Gafr

Pris:   £19

I bwy: Pobl Kenya, Affrica

Pam:  Mae pobl dlawd y wlad yn cael llaeth i'w yfed a geifr bach i'w gwerthu yn y farchnad.

Llun: Cymorth Cristnogol/Matt Gonzalez-Noda

 

 

6009626-floating-garden.jpg

Beth:  Pecyn arbennig i dyfu gardd sy'n arnofio

Pris:   £18

I bwy: Pobl Bangladesh

Pam:  Oherwydd bod llawer o lifogydd yn digwydd ym Mangladesh, mae'n anodd tyfu bwyd ar y tir. Dyma syniad gwych, felly - tyfu bwyd mewn gardd sy'n arnofio.

Llun: Cymorth Cristnogol/Genevieve Lomax

 

 

6009643m-flock-of-ducks.jpg

Beth:  Hwyaid

Pris:   £31

I bwy: Pobl Bangladesh

Pam:  Mae'r hwyaid yn rhoi wyau i'r bobl eu bwyta, sy'n wych, gan fod tyfu cnydau mor anodd ym Mangladesh.

Llun: Cymorth Cristnogol/Genevieve Lomax

 

Sut mae prynu'r anrhegion hyn?

Mae'n bosib prynu'r rhoddion hyn:

  • ar-lein - drwy fynd i wefan presentaid.org
  • drwy edrych ar gatalog neu ar y wefan a llenwi ffurflen a'i phostio
  • dros y ffôn

Diolch i Gymorth Cristnogol am y wybodaeth a'r lluniau.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cerdyn rhoddion cerdyn sy’n nodi swm arbennig o arian y gallwch chi ei wario mewn siop neu ar y we fel arfer gift card
dyfrhau rhoi dŵr i blanhigion to water
cnydau lluosog cnwd - planhigion sy’n rhoi bwyd crops
clefyd salwch disease
arnofio aros ar wyneb y dŵr to float
llifogydd llawer iawn o ddŵr ar y tir floods
hyrwyddo rhoi gwybodaeth am rywbeth er mwyn tynnu sylw ato to promote