Mae llawer o hysbysebion am roddion Nadolig ar hyn o bryd - ar y teledu … ar radio lleol … mewn cylchgronau … yn y siopau … ac … ar y we.
Beth ydych chi'n ei feddwl o'r ddwy hysbyseb yma sy'n cael eu paratoi ar gyfer papur bro?
Mae hysbysebion yn bwysig iawn. Maen nhw'n ffordd dda o werthu pethau - fel rhoddion Nadolig. Os yw hysbyseb yn dda, gall berswadio rhywun i brynu rhywbeth.
Hysbysebu - dyma'r ffeithiau:
Yn 2011, cafodd dros £16 biliwn ei wario ar hysbysebu ar wahanol gyfryngau:
[Gwybodaeth o: http://www.mediaweek.co.uk/news/1126667/AA-reports-UK-ad-spend-lifted-27-2011/ ]
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
beth bynnag fo’r … | dim ots beth yw’r … | whatever the |
cyfryngau | teledu, radio, y we, papurau newydd ac ati | media |