Bill Gates yw un o ddynion cyfoethocaf y byd, os nad y cyfoethocaf …
Cafodd Bill Gates ei eni ar 28 Hydref 1955, yn Seattle, Unol Daleithiau America. Roedd ei dad yn gyfreithiwr a'i fam yn athrawes, cyn iddi roi'r gorau i'w swydd er mwyn magu'r teulu - Bill a'i ddwy chwaer.
Pan oedd Bill Gates yn blentyn, roedd wrth ei fodd yn chwarae gemau bwrdd ac yn darllen. Pan oedd yn 13 oed, dechreuodd gymryd diddordeb mewn cyfrifiaduron - diddordeb a oedd i ddatblygu mwy a mwy wrth iddo dyfu.
Roedd rhieni Bill - a'i fam yn arbennig - yn weithgar iawn gydag achosion da. Weithiau, byddai'n mynd â Bill i weld peth o'r gwaith gwirfoddol roedd hi'n ei wneud mewn ysgolion ac yn y gymuned.
Tra oedd yn yr ysgol uwchradd, daeth Bill yn ffrindiau â Paul Allen. Roedd gan y ddau ddiddordeb mawr mewn cyfrifiaduron a bydden nhw'n treulio llawer o'u hamser yn labordai cyfrifiaduron yr ysgol, yn gweithio ar raglenni.
Yn 1970, pan oedd Bill yn 15 oed, dechreuodd Bill a Paul fusnes a datblygon nhw raglen gyfrifiadurol i fonitro traffig Seattle.
Ar ôl gadael yr ysgol, aeth Bill i Brifysgol Harvard, er mwyn astudio'r gyfraith, ond eto, roedd cyfrifiaduron yn ei ddenu. Oherwydd hynny, gadawodd y brifysgol cyn gorffen y cwrs ac aeth ati i weithio ar raglen gyfrifiadurol gyda'i ffrind, Paul Allen.
Yn 1975, ffurfiodd y ddau gwmni o'r enw Micro-Soft, sef cyfuniad o'r geiriau "micro-computer" a "software". Microsoft yw enw'r cwmni erbyn heddiw. Roedd y cwmni'n creu meddalwedd a thyfodd yn gwmni llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd.
Yn 1981, daeth Bill Gates yn Gadeirydd a Llywydd y cwmni a datblygodd y cwmni ymhellach. Erbyn 1983, roedd swyddfeydd gan y cwmni mewn gwahanol rannau o'r byd. Y flwyddyn wedyn, ymddiswyddodd Paul Allen o'r cwmni, ar ôl salwch difrifol.
Roedd 1994 yn flwyddyn bwysig ym mywyd Bill. Dyma pryd y priododd â Melinda French, ond yn ogystal, dyma'r flwyddyn y bu farw ei fam, a oedd wedi bod mor weithgar gydag achosion da. Penderfynodd Bill y dylai ddilyn esiampl ei fam. Sylweddolodd fod ganddo gyfrifoldeb i roi peth o'i gyfoeth i elusennau. Yn y flwyddyn honno, felly, gyda help ei wraig, Melinda, sefydlodd y William H. Gates Foundation i gefnogi addysg ac iechyd ar draws y byd ac i helpu cymunedau tlawd. Yna, yn y flwyddyn 2000, cafodd y Bill and Melinda Gates Foundationei ffurfio.
Aeth Bill a'i wraig ati i weithio'n galed dros yr elusen ac erbyn 2006, roedd Bill wedi penderfynu gweithio llai i gwmni Microsoft ac i weithio mwy i'r elusen.
Erbyn heddiw, mae'r elusen wedi rhoi dros 26 biliwn o ddoleri i gynlluniau sy'n helpu pobl eraill.
Mae hanner yr arian yn cael ei wario ar geisio gwella problemau iechyd ar draws y byd, yn enwedig ymladd yn erbyn malaria, TB, AIDS a chlefydau eraill.
Mae chwarter yr arian yn cael ei wario ar brojectau sy'n helpu pobl dlawd y byd ac mae chwarter yn cael ei wario ar brojectau addysg yn yr Unol Daleithiau.
Gyda'u cyfoeth, mae Bill a'i wraig, Melinda, yn helpu i
Dim ond rhai o'r projectau sy'n cael eu rhestru uchod - mae'r elusen yn helpu miliynau o bobl ar draws y byd - diolch i haelioni Bill a Melinda Gates.
Os hoffech chi ddarllen mwy am Bill Gates a'r elusen, ewch i:
http://www.biography.com/people/bill-gates-9307520
http://www.gatesfoundation.org/about/Pages/foundation-fact-sheet.aspx
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
rhoi’n hael | rhoi llawer iawn | to give generously |
gwaith gwirfoddol | gwaith heb dâl - er mwyn helpu pobl eraill | voluntary work |
denu | tynnu sylw | to attract |
cyfuniad | y broses o ddefnyddio rhannau gyda’i gilydd | combination |
ymddiswyddo | rhoi’r gorau i weithio | to resign |
elusen, elusennau | achos da, achosion da | charity, charities |
sefydlu | dechrau | to establish, set up |
cymunedau | grwpiau o bobl sy’n byw gyda’i gilydd | communities |
carthffosiaeth | systemau draeniau | sewerage, drainage system |
cnydau | lluosog cnwd - planhigion sy’n rhoi bwyd | crops |
haelioni | caredigrwydd mawr | generosity |