Ymwelwyr o blaned arall
Mae aliwns yn bwnc poblogaidd iawn. Gredech chi fod tua dau ddwsin o ffilmiau am aliwns wedi cael eu gwneud yn 2012? Pam y diddordeb? Wel, mae'n brofiad real iawn i rai pobl. Mae rhai pobl yn dweud eu bod nhw wedi gweld aliwns neu long ofod. Dyma un enghraifft a ddigwyddodd yng Nghymru yn ystod y 1970au:
Roedd plant ysgol gynradd Rhos-y-bol yn Ynys Môn yn cael gwers bêl-rwyd ar y buarth un diwrnod ym 1977. Edrychodd un o'r merched i fyny wrth iddi hi baratoi i sgorio ac, yn sydyn, gwelodd hi rywbeth yn symud ar draws yr awyr.
Yna, gwelodd y plant i gyd y peth rhyfedd yn hedfan. Aethon nhw i mewn i'r ystafell ddosbarth a gofynnodd yr athrawes iddyn nhw dynnu llun beth roedden nhw wedi'i weld - heb ddangos i'w gilydd pa fath o lun roedden nhw'n ei wneud. Yna, cymharodd pawb eu lluniau - roedd pob llun yn edrych yn debyg iawn i'w gilydd. Roedd pawb wedi gweld yr un peth ac roedd pawb wedi tynnu'r un llun.
Beth oedd yn y llun? Llong ofod yn yr awyr. Roedd gwaelod y llong yn fflat ac yn sgleiniog ac roedd y rhan uchaf fel siâp wy.
Roedd y stori yn y wasg a chafodd y digwyddiad lawer o sylw. Gan fod pawb wedi tynnu'r un llun, rhaid bod pawb wedi gweld yr un peth - llong ofod!
Ymwelwyr o dan y môr
Ond mae'r syniad o aliwns yn ymweld â ni o blaned arall wedi datblygu erbyn heddiw. Mae rhai'n credu bod aliwns yn byw yn y môr.
Mae dŵr yn gorchuddio 70% o'r blaned a does neb wedi archwilio 90% ohono. Tybed oes USOs neuUnidentified Submerged Objects o dan y môr?
Mae llawer o bobl wedi'u gweld nhw yn ôl y sôn. Ym mis Hydref, 1977, roedd llong danfor o'r enw Volga yn y môr a daeth 9 gwrthrych siâp disg i'w hamgylchynu. Roedden nhw yno am 18 munud. Yn ystod y cyfnod roedden nhw yno, doedd radio na system gyfathrebu'r llong danfor, na'r offer electronig, ddim yn gweithio'n iawn o gwbl. Gofynnodd capten y llong, Capten Tarantin, i'r criw wylio'r digwyddiad yn ofalus, tynnu lluniau a chofio'r digwyddiad oherwydd doedd e ddim eisiau i swyddogion yr Undeb Sofietaidd ei gyhuddo o fod yn feddw neu'n wallgof.
Dro arall, pan oedd llong danfor o'r Unol Daleithiau'n dychwelyd i Virginia ar ôl bod yn y Môr Canoldir am chwe mis, gwelodd rhai o'r criw wrthrych mawr, lliw oren llachar, siâp wy yn y dŵr. Newidiodd y llong danfor ei chyfeiriad a'i chyflymder sawl gwaith, ond roedd y gwrthrych oren yn dal yno. Pan oedd y gwrthrych ger y llong danfor, doedd y cwmpawd, y radar na'r offer radio ddim yn gweithio o gwbl. Yna, diflannodd y gwrthrych mor sydyn ag yr oedd e wedi ymddangos, ond roedd criw'r llong danfor wedi bod yn ei wylio am ryw awr a hanner.
Oes rhywbeth yn arbennig am Ynys Môn?
Mae'n amlwg bod plant ysgol Rhos-y-bol wedi gweld rhywbeth rhyfedd yn yr awyr y diwrnod hwnnw ym 1977. Nid un person yn unig welodd y gwrthrych, ond dosbarth cyfan o blant. Nid yn unig hynny, ond mae rhai pobl wedi gweld golau rhyfedd yn codi allan o'r môr ger Ynys Môn, ac yn disgyn i mewn iddo hefyd. Mae hyn wedi digwydd sawl gwaith oddi ar Ynys Seiriol.
Ym mis Ionawr 1974, gwelodd nifer o bobl wrthrychau mawr yn codi o'r môr ger yr ynys. Mae rhai pobl wedi'u gweld nhw ers hynny hefyd. Felly, oes 'na rywbeth yn 'byw' yn y môr oddi ar arfordir Ynys Môn? Ydy'r aliwns wedi dod i'r ddaear ac wedi llwyddo i fyw o dan y dŵr?
Tybed?
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Gredech chi? | Fyddech chi’n credu? | Would you believe? |
gorchuddio | yn gorwedd dros | to cover |
to cover | edrych i mewn i | to investigate |
yn ôl y sôn | mae’n debyg | apparently |
llong danfor | llong sy’n teithio o dan y môr | submarine |
amgylchynu | dod ac aros o gwmpas rhywbeth | to surround |
cyhuddo | dweud bod rhywun wedi gwneud rhywbeth o’i le | to accuse |
gwallgof | problem feddyliol, gair arall am ‘ynfyd’ | mad |
dro arall | rhywbryd arall | another time |
gwrthrych | rhywbeth | object |
cyfeiriad | y ffordd roedd hi’n teithio | direction |
cwmpawd | darn o offer i ddangos cyfeiriad | compass |