Swydd ryfedd

Rhifyn 15 - Rhyfedd
Swydd ryfedd

Darllenwch yr hysbyseb yma:

ddal_crocodeil_hysbyseb.jpg

 

Yr hanes

  • Ym mis Ionawr 2013, dihangodd tua 1,500 o grocodeilod o fferm crocodeilod yn Ne Affrica.
  • Sut? Mae'r fferm yn agos i afon Limpopo. Roedd llif yn yr afon. Agorodd y penaethiaid y giatiau i'r caetsys er mwyn gadael y dŵr allan, a daeth y crocodeilod allan hefyd!

croc3_copy_500x333.jpg

Y crocodeilod

  • Crocodeilod y Nîl oedd y rhain - y crocodeilod mwyaf yn Affrica. Maen nhw'n gallu tyfu i 5.5 metr.

croc2.jpg

  • Mae'r crocodeilod hyn yn bwyta anifeiliaid fel ceirw, sebras, giraffod yn ogystal ag anifeiliaid llai fel ieir, geifr, defaid a gwartheg. Maen nhw'n ymosod ar bobl hefyd.
  • Maen nhw'n beryglus iawn. Fel arfer, maen nhw'n dal anifail ac yna maen nhw'n ei lusgo o dan y dŵr er mwyn ei ladd - cyn ei fwyta.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cyn gynted â phosib mor fuan â phosib as soon as possible
arwain rheoli’r sefyllfa to lead
maen nhw’n awyddus maen nhw eisiau they’re eager, keen
haws mwy hawdd easier
anelu … at pwyntio’r golau at to aim
ymddangos edrych to appear
llif gormod o ddŵr, fel bod yr afon yn gorlifo flood
caetsys lluosog caets, lle maen nhw’n cadw’r crocodeilod pens
llusgo tynnu to drag