Darllenwch yr adroddiad papur newydd isod sy'n sôn am ddigwyddiad rhyfedd yn 1869.
Beth ydy stori Sarah Jacob, felly?
Roedd rhai pobl yn meddwl bod Sarah wedi gallu byw am ddwy flynedd heb fwyta nac yfed unrhyw beth. Dyna beth roedd ei theulu'n ei ddweud. Yn wir, roedd sôn mai hi oedd yn gwrthod unrhyw fwyd neu ddiod oedd yn cael ei gynnig iddi.
Ar y llaw arall, roedd rhai pobl yn dweud bod yna ychydig o dwyllo wedi digwydd. Roedd y post mortem yn dangos bod ychydig bach o fwyd yng nghorff Sarah Jacob pan fu farw ac efallai bod rhywun wedi rhoi ychydig o fwyd iddi pan nad oedd neb yn gwylio.
Yn yr achos llys, penderfynodd y rheithgor fod Evan a Hannah Jacob yn euog o ddynladdiad gan eu bod wedi caniatáu iddi newynu. Fodd bynnag, mynnodd Mr Jacob, "Yr ydym yn ddieuog".
Cafodd y ddau eu dedfrydu i lafur caled yn y carchar: Evan Jacob am flwyddyn a Hannah Jacob am chwe mis.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
dynladdiad | lladd rhywun | manslaughter |
dan ei sang | yn orlawn | full to capacity |
diffynnydd | person sydd wedi ei gyhuddo o dorri’r gyfraith ac sy’n ymddangos yn y llys | defendant |
yn y doc | rhan o’r llys lle mae’r diffynnydd yn sefyll | in the dock |
gwelw | gwyn, ddim yn iach | pale |
cyhuddiad | beth roedden nhw wedi ei gyhuddo o wneud | accusation, charge |
rheithgor | panel o bobl sy’n penderfynu ydy diffynnydd yn euog neu’n ddieuog | jury |
gwanhau | mynd yn wan | to weaken |
dedfrydu | rhoi cosb | to sentence |
llafur caled | gwaith caled iawn | hard labour |