Dynion bach gwyrdd?

Rhifyn 15 - Rhyfedd
Dynion bach gwyrdd?

Dynion bach gwyrdd … goleuadau rhyfedd … llongau gofod … UFOs … Ydych chi'n credu ynddyn nhw? Mae llawer iawn o bobl yn credu ynddyn nhw achos maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi'u gweld nhw.

ufo4.jpg

Creaduriaid bach rhyfedd o'r gofod

Yn ôl y sôn, y tro cyntaf i bobl weld creadur 'rhyfedd' o'r gofod oedd ym 1864. Roedd erthygl mewn papur newydd yn Ffrainc y flwyddyn honno yn sôn am ddau Americanwr yn darganfod creadur tua 1 metr o daldra a oedd wedi marw.  Roedd e'n edrych fel mymi. Doedd dim blew na gwallt ar ei gorff ond roedd trwyn byr fel trwnc eliffant ar ei dalcen. Nid Dydd Ffŵl Ebrill oedd hi!

ufo2.jpg

Yna, ym 1898, ysgrifennodd yr awdur H.G. Wells nofel o'r enw The War of the Worlds, sy'n sôn am 'ddynion' o blaned Mawrth yn dod i'r ddaear.  Mae'r syniad o greaduriaid yn dod i'r ddaear wedi bod yn boblogaidd byth ers hynny.

Llongau gofod

Mae llawer o bobl yn dweud eu bod nhw wedi gweld llongau gofod a goleuadau llachar yn yr awyr. Yr enw cyffredin arnyn nhw yw Unidentified Flying Object, neu UFO, neu soser hedegog - flying saucer. Ym 1947, gwelodd peilot awyren naw o bethau rhyfedd yn hedfan yn yr awyr ar gyflymder o tua 1,000 o filltiroedd yr awr. Disgrifiodd e nhw fel soseri yn sgimio ar draws wyneb dŵr, felly daeth yr enw 'soser hedegog' yn boblogaidd wrth sôn am y pethau rhyfedd hyn.

ufo3.jpg

Ond roedd pobl wedi gweld soseri yn yr awyr ymhell cyn 1947. Ym 1878, gwelodd ffermwr o Texas falŵn yn yr awyr oedd yn edrych fel soser. Dyna'r tro cyntaf i rywun sôn am siâp soser. Mae pobl wedi bod yn gweld pethau yn yr awyr byth ers hynny.

Ble i chwilio

Hoffech chi gyfarfod â rhywun o'r gofod? Beth am fynd i chwilio? Mae digon o leoedd ar draws y byd lle mae'n bosib gweld rhywbeth anghyffredin - Canada, Gogledd America, Chile, Brasil, Awstralia, Rwsia, Ffrainc, Yr Eidal, Sbaen, Gwlad Belg a Phrydain.  Ie, Prydain. Mae adroddiadau'n sôn am longau gofod yn hedfan dros Lerpwl a Llundain, er enghraifft.

ufo5.jpg

Louisiana, Hydref 23, 2010.

Mae UFOs wedi bod yn hedfan dros Gymru hefyd - yn ôl y sôn. Mae pobl wedi'u gweld nhw dros gyfnod o 40 mlynedd. Cafodd dros 20 eu gweld rhwng 1996 a 2000 yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn - ym Mro Gŵyr, Sir y Fflint, Ynys Môn a Sir Ddinbych, er enghraifft, a gwelodd pobl bethau rhyfedd yn yr awyr yn Sir Benfro a Cheredigion yn ystod y 1970au.  Mae un dyn o Sir Ddinbych yn dweud iddo gael ei gipio gan aliwns un noson pan oedd yn dod adre o'i waith. Mae'n gallu cofio cerdded ar hyd y ffordd a chlywed sŵn yn yr awyr ond dydy e ddim yn gallu cofio unrhyw beth arall nes iddo ddihuno y bore wedyn yn ei gartref.  Roedd e'n gallu teimlo rhywbeth rhyfedd yn ei drwyn ac roedd e'n meddwl bod trosglwyddydd wedi cael ei roi yno. Rhyfedd!

Felly, mae'n bosib y gwelwch chi rywbeth rhyfedd rywbryd! Byddai'n well i chi feddwl ymlaen llaw beth i'w ddweud - rhag ofn!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
yn ôl y sôn mae’n debyg apparently
mymi corff marw wedi ei lapio mewn cadachau, e.e. yn yr hen Aifft mummy
y Weinyddiaeth Amddiffyn adran o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am amddiffyn y wlad the Ministry of Defence
dihuno deffro to wake
cipio cymryd beforehand
trosglwyddydd offer trosglwyddo signalau transmitter
ymlaen llaw cyn iddo ddigwydd beforehand