Beth yw eich barn am y frenhiniaeth?
Mae papur lleol wedi gofyn y cwestiwn isod a gwahodd ei ddarllenwyr i roi eu barn. Darllenwch y llythyr isod ac edrychwch ar y tasgau sy'n dilyn.
Annwyl Olygydd,
Diolch i chi am holi'r cwestiwn hwn. Nid oes pwynt cael brenhiniaeth o gwbl, yn fy marn i.
Mae nifer o ddadleuon pwysig yn erbyn.
Yn gyntaf, mae'r frenhiniaeth yn groes i ddemocratiaeth. Does dim hawl gan bobl ddewis brenin neu frenhines, oherwydd bod y teitl yn cael ei etifeddu.
Yn ail, nid oes neb yn dod yn frenin neu'n frenhines oherwydd eu bod nhw'n ddeallus neu'n brofiadol, dim ond oherwydd eu bod nhw'n perthyn i deulu arbennig. Mae'r Frenhines Elizabeth yn bennaeth y lluoedd arfog, ond nid oes ganddi unrhyw brofiad o gwbl o fod yn filwr. Mae hi'n bosib i unrhyw un ym Mhrydain fod yn Brif Weinidog neu'n aelod seneddol, ond nid oes cyfle i bawb gael bod yn frenin neu frenhines. Nid yw hyn yn deg o gwbl.
Yn drydydd, mae'r frenhiniaeth yn ddrud iawn. Mae'r grŵp 'Republic' eisiau gweld arlywydd yn cael ei ethol yn lle brenin neu frenhines, ac maen nhw'n amcangyfrif bod y frenhiniaeth yn costio £202.4 miliwn o bunnoedd y flwyddyn. Rydyn ni'n talu nid yn unig am y frenhines a'r teulu agos, ond am lawer o'i theulu estynedig hefyd. Felly, mae'r 16 aelod o'r teulu sy'n 'gweithio' yn cael £12.7 miliwn yr un. Maen nhw'n gallu fforddio talu am staff i wneud popeth drostyn nhw. Felly, nid oes syniad gan y teulu brenhinol sut mae pobl gyffredin yn byw.
Yn olaf, mae'r frenhiniaeth yn rhywbeth i Brydain, ac nid i ni yma yng Nghymru. Roedd ein teulu brenhinol ein hunain gennym ni hyd at 1282. Y peth gorau i ni felly yw cael gwared ar y teulu brenhinol. Y ffordd ymlaen yw sefydlu gweriniaeth yng Nghymru, gydag arlywydd wedi'i ethol, gan y Cymry.
Diolch am y cyfle i fynegi fy marn.
Yn gywir iawn,
M. Hughes.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
brenhiniaeth (b) | swydd brenin/brenhines | monarchy |
dadleuon | sawl dadl | arguments |
democratiaeth (b) | hawl pobl i bleidleisio | democracy |
etifeddu | cael rhywbeth ar ôl e.e. tad neu fam | to inherit |
lluoedd arfog | y fyddin, y llu awyr a’r llynges | armed forces |
teulu estynedig | cefnder, cyfnither, modryb, a phawb | extended family |
gweriniaeth (b) | gwlad neu lywodraeth heb frenin | republic |
arlywydd | pennaeth y wlad, fel yr Arlywydd Obama yn UDA | president |
ethol | dewis drwy bleidleisio | to elect |
sefydlu | cychwyn, gosod i fyny | to establish |