Enillodd Gerallt Lloyd Owen gadair Eisteddfod yr Urdd yn Aberystwyth, 1969 am gasgliad o gerddi o'r enw 'Cerddi'r Cywilydd'. Thema'r cerddi oedd y cywilydd yr oedd y bardd yn ei deimlo oherwydd bod y Cymry wedi gwirioni bod tywysog o Sais yn mynd i gael ei arwisgo'n dywysog Cymru yng Nghaernarfon.

Mae nifer o'r cerddi'n cyfeirio at Lywelyn ein Llyw Olaf, ac am ei farwolaeth yng Nghilmeri yn 1282.

Dyma ddetholiad o'r gerdd enwog 'Fy ngwlad' sy'n sôn am Arwisgiad 1969:

Fy Ngwlad

Wylit, wylit, Lywelyn,

Wylit waed pe gwelit hyn.

Ein calon gan estron ŵr,

Ein coron gan goncwerwr,

A gwerin o ffafrgarwyr

Llariaidd eu gwên lle'r oedd gwŷr.

 

Fe rown wên i'r Frenhiniaeth,

Nid gwerin nad gwerin gaeth.

Byddwn daeog ddiogel

A dedwydd iawn, doed a ddêl,

Heb wraidd na chadwynau bro,

Heb ofal ond bihafio.

 

Fy ngwlad, fy ngwlad, cei fy nghledd

Yn wridog dros d'anrhydedd.

O gallwn, gallwn golli

Y gwaed hwn o'th blegid di.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cywilydd gwarth shame
cyfeirio at sôn am to refer to
detholiad darn wedi’i ddethol/dewis extract
wylit baset/byddet ti’n wylo/llefain you would weep
pe gwelit petaet ti’n gweld if you were to see
estron tramor foreign
concwerwr rhywun sydd wedi ein concro conqueror
gwerin (b) pobl gyffredin common people
ffafrgarwyr pobl sy’n hoffi cael ffafrau people who like to be favoured
llariaidd addfwyn, neis gentle
taeog yn fodlon ymddwyn fel gwas servile
dedwydd hapus happy
doed a ddêl beth bynnag a ddaw beth bynnag a ddaw
gwraidd un ‘gwreiddyn’ root
cadwynau bro pethau sy’n ein clymu wrth ein hardal an area’s chains
an area’s chains cleddyf sword
gwridog coch rosy/red
anrhydedd (b) bri, parch, clod honour
o’th blegid di o’th achos di because of you