Idiomau 'brenin', 'coron' a 'gwlad'
diwrnod i'r brenin = diwrnod o'r ysgol/gwaith
Ddoe, roedd yr ysgol ar gau oherwydd yr eira, felly cawson ni ddiwrnod i'r brenin.
Mae A yn frenin wrth B = mae A yn llawer, llawer gwell na B.
Mae esgidiau Dan yn wael ond maen nhw'n frenin wrth esgidiau Huw!
Y Goron Driphlyg = Triple crown
Gobeithio y bydd tîm rygbi Cymru'n ennill y Goron Driphlyg eleni, ond mae'n anodd curo Lloegr, yr Alban a'r Iwerddon.
i goroni'r cyfan = ar ben popeth arall,to cap it all
Mae gen i waith cartref Saesneg, Cymraeg a hanes heno, ac i goroni'r cyfan, mae prawf mathemateg yfory.
gwlad dramor (b) = gwlad wahanol i Gymru, dros y dŵr efallai
Hoffet ti weithio mewn gwlad dramor rywbryd?
llond gwlad = llond y lle
Roedd llond gwlado bobl yn y gêm.
gwlad y gân = disgrifiad o Gymru'n wlad lle mae pawb yn canu/hoffi cerddoriaeth
Wyt ti wedi clywed côr 'Only Boys aloud'? Maen nhw'n profi mai Cymru ywgwlad y gân.
cefn gwlad = ardal sydd ddim yn y dref neu'r ddinas (Sylwch: does dim angen 'y' cyn 'cefn gwlad')
Symudodd fy ffrind o Abertawe i gefn gwlad Ceredigion y llynedd.